bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Thessalonians 5
1 Thessalonians 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Ond am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid oes arnoch raid ysgrifenu attoch chwi,
2
canys chwi eich hunain a wyddoch yn gywir, am ddydd yr Arglwydd, fel lleidr yn y nos,
3
mai felly y mae ar ddyfod; pan ddywedont, Heddwch a diogelwch sydd, yna yn ddisymmwth y mae arnynt ddinystr, fel gwewyr esgor ar yr hon sydd feichiog, ac ni ddiengant ddim.
4
Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y bo i’r dydd eich goddiweddu chwi fel lleidr,
5
canys yr oll o honoch chwi, meibion y goleuni ydych, a meibion y dydd; nid ydym eiddo’ r nos na’ r tywyllwch;
6
gan hyny, ynte, na chysgwn fel y lleill, eithr gwyliwn a byddwn sobr;
7
canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a’r rhai sy’n meddwi, y nos y meddwant; ond nyni,
8
a ni yn eiddo’ r dydd, byddwn sobr, wedi rhoddi am danom ddwyfronneg ffydd a chariad; ac megis helm, obaith iachawdwriaeth;
9
canys ni osododd Duw nyni i ddigofaint, eithr i gael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
10
yr Hwn a fu farw drosom, fel pa un bynnag ai gwylied ai cysgu y b’om, ynghydag Ef y byddom fyw.
11
Gan hyny, cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch y naill y llall, fel hefyd yr ydych yn gwneud.
12
Ac attolygwn i chwi, frodyr, adnabod y rhai sy’n llafurio yn eich plith, ac sydd trosoch yn yr Arglwydd, ac yn eich cynghori,
13
a gwneuthur cyfrif tra-mawr o honynt mewn cariad o achos eu gwaith. Byddwch heddychlawn â’ch gilydd.
14
A galwn arnoch, frodyr, cynghorwch y rhai afreolus; cysurwch y gwan eu calon; cynheliwch y gweiniaid;
15
byddwch ymarhous wrth bawb. Edrychwch na bo i neb dalu drwg am ddrwg i neb; eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sy dda tuag at eich gilydd a thuag at bawb.
16
Peunydd llawenychwch; yn ddibaid gweddïwch;
18
ym mhob peth diolchwch, canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag attoch.
19
Yr Yspryd na ddiffoddwch;
20
prophwydoliaethau na ddirmygwch; pob peth profwch;
22
yr hyn sy dda deliwch; rhag pob rhith drygioni ymgedwch.
23
A Duw’r tangnefedd Ei hun a’ch sancteiddio yn gwbl oll; a’ch yspryd chwi a’ch enaid a’ch corph a gadwer yn gyfan, yn ddifeius yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
24
Ffyddlawn yw’r Hwn sydd yn eich galw, yr Hwn hefyd a’ i gwna.
25
Brodyr, gweddïwch drosom.
26
Annerchwch y brodyr oll â chusan sancteiddiol.
27
Tynghedaf chwi yn yr Arglwydd y darllener yr epistol hwn i’r holl frodyr.
28
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5