bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
1 Thessalonians 3
1 Thessalonians 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Am hyny heb ymattal yn hwy, bu foddlawn genym ein gadael yn Athen, yn unig;
2
a danfonasom Timothëus, ein brawd, a gweinidog Duw yn Efengyl Crist, i’ch sefydlu a’ch diddanu chwi ynghylch eich ffydd;
3
nad ysgydwer neb gan y gorthrymderau hyn, canys chwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd;
4
canys pan gyda chwi yr oeddym, rhag-ddywedasom i chwi ein bod ar fedr ein gorthrymmu, fel y digwyddodd ac y gwyddoch.
5
O herwydd hyn myfi hefyd, heb ymattal yn hwy, a ddanfonais er mwyn gwybod eich ffydd, rhag mewn modd yn y byd ddarfod i’r temtiwr eich temtio, ac yn ofer yr aethai ein llafur.
6
Ond wedi dyfod o Timothëus yn awr attom oddiwrthych, a mynegi i ni newyddion da am eich ffydd a’ch cariad, a bod genych goffa da am danom yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled, fel yr ydym ninnau hefyd am danoch chwi;
7
o achos hyn diddanwyd ni, frodyr, o’ch rhan chwi, yn ein holl angenoctid a gorthrymder,
8
trwy eich ffydd chwi, canys yn awr byw ydym, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd.
9
Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw am danoch am yr holl lawenydd â’r hwn y llawenychwn o’ch achos ger bron ein Duw,
10
gan weddïo, nos a dydd, tros bob mesur, am weled eich gwyneb chwi, a pherffeithio diffygion eich ffydd?
11
A Duw Ei hun a’n Tad, ac ein Harglwydd Iesu, a gyfarwyddo ein ffordd attoch;
12
a’r Arglwydd a’ch lliosogo chwithau, ac a baro i chwi fod yn helaeth mewn cariad i’ch gilydd, ac i bawb, fel yr ydym ninnau hefyd i chwi,
13
er mwyn sefydlu eich calonnau chwi yn ddifeius mewn sancteiddrwydd ger bron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu gyda’i holl saint.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5