bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Timothy 1
2 Timothy 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Paul, apostol i Grist Iesu trwy ewyllys Duw yn ol addewid y bywyd y sydd yng Nghrist Iesu, at Timothëus,
2
fy mhlentyn anwyl. Gras, trugaredd a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Harglwydd.
3
Diolch yr wyf i Dduw, yr Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu o’ m rhieni mewn cydwybod bur, mor ddibaid y mae genyf fy nghoffa am danat yn fy ngweddïau, nos a dydd yn hiraethu am dy weled di,
4
gan gofio dy ddagrau di, fel â llawenydd y’m llanwer;
5
wedi cael atgofiad o’r ffydd ddiragrith y sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois ac yn dy fam Eunice, a pherswadiwyd fi mai ynot ti hefyd y trig.
6
O herwydd pa achos dy goffau yr wyf i ennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylaw.
7
Canys ni roddes Duw i ni yspryd ofnogrwydd, eithr yspryd gallu a chariad a chystwyad.
8
Gan hyny, na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac o myfi, Ei garcharor;
9
eithr cydoddef gystudd â’r Efengyl yn ol gallu Duw, yr Hwn a’n hachubodd ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol ein gweithredoedd, eithr yn ol Ei arfaeth Ef Ei hun a gras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu cyn yr amseroedd tragywyddol,
10
ond a amlygwyd yn awr trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr Hwn a ddiddymmodd angau, ac a ddug i oleuni fywyd ac anllygredigaeth trwy’r Efengyl,
11
i’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr ac apostol a dysgawdwr.
12
Am ba achos, y pethau hyn hefyd yr wyf yn eu dioddef. Eithr nid oes arnaf gywilydd, canys gwn i bwy y credais, a pherswadiwyd fi mai abl yw i gadw yr hyn a roddwyd Atto genyf erbyn y dydd hwnw.
13
Dal gyn-ddelw’r geiriau iachus, y rhai genyf fi a glywaist, mewn ffydd, a’ r cariad y sydd yng Nghrist Iesu.
14
Y peth ardderchog a roddwyd attat, cadw trwy’r Yspryd Glân, yr Hwn sydd yn trigo ynom.
15
Gwyddost hyn, mai troi oddiwrthyf a wnaeth pawb y sydd yn Asia; o’r rhai y mae Phugelus a Hermogenes.
16
Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesiphorus; canys mynych y’m hadfywiodd i, ac o’m cadwyn ni bu arno gywilydd,
17
eithr pan yr oedd yn Rhufain, yn ddiwyd y ceisiodd fi ac y’m cafodd (rhodded yr Arglwydd iddo gaffael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnw),
18
a pha faint yn Ephesus y gwasanaethodd i mi, da iawn yr wyt ti yn gwybod.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
Recommended Reading
Commentary
2 Timothy Commentaries
→
Devotional
2 Timothy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)) Study Bible
→