bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Timothy 2
2 Timothy 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Tydi, gan hyny, fy mhlentyn, ymnertha yn y gras y sydd yng Nghrist Iesu,
2
a’r pethau a glywaist genyf trwy lawer o dystion, y rhai hyn dyro at ddynion ffyddlawn, y rhai a fyddant abl i ddysgu eraill hefyd.
3
Cydoddef gystudd ynghyda mi, megis milwr da i Grist Iesu.
4
Nid yw neb, pan yn milwrio yn ymblethu yng ngorchwylion y bywyd hwn, fel i’r hwn a’i dewisodd yn filwr y rhyngo fodd.
5
Ac os yn y campau yr ymdrecha neb, ni choronir onid yn gyfreithlawn yr ymdrecha.
6
I’r amaethydd y sy’n llafurio, y mae rhaid yn gyntaf gael rhan o’r ffrwythau.
7
Ystyria pa beth yr wyf yn ei ddywedyd, canys rhydd yr Arglwydd i ti ddeall ym mhob peth.
8
Cofia Iesu Grist, wedi Ei gyfodi o feirw, o had Dafydd, yn ol fy Efengyl,
9
yn yr hon yr wyf yn goddef cystudd hyd rwymau, megis drwg-weithredwr, eithr gair Duw ni rwymwyd.
10
O achos hyn pob peth yr wyf yn ei oddef er mwyn yr etholedigion, fel y bo iddynt hwy hefyd gael yr iachawdwriaeth y sydd yng Nghrist Iesu, ynghyda gogoniant tragywyddol.
11
Credadwy yw’r ymadrodd, Canys os buom feirw gydag Ef, byw fyddwn hefyd gydag Ef;
12
os goddef yr ydym, teyrn-aswn hefyd gydag Ef; os gwadwn Ef, Yntau hefyd a’n gwad ni;
13
os anffyddlawn ydym, Efe a barha yn ffyddlawn, canys gwadu Ei hun ni all Efe.
14
Y pethau hyn dwg i’ w cof, gan orchymyn iddynt, ger bron yr Arglwydd, nad ymrysonont â geiriau, am yr hyn nad yw dda i ddim, i ddadymchweliad y rhai sy’n clywed.
15
Bydd ddyfal i roddi dy hun yn brofedig i Dduw, yn weithiwr heb achos bod a chywilydd arno, yn iawn-rannu gair y gwirionedd.
16
Ond yr halogedig wag-seiniau gochel; canys i fwy o annuwioldeb yr ant rhagddynt;
17
a’u gair hwynt, fel cancr y bwytty; o’r rhai y mae Humenëus a Philetus;
18
y rhai, o ran y gwirionedd, a fethasant daro’r nod, gan ddywedyd fod yr adgyfodiad eisoes wedi digwydd,
19
a dadymchwelyd ffydd rhai y maent. Er hyny, sail ffurf Duw sy’n sefyll, a chanddo y sel hon, Edwaen yr Arglwydd y rhai sydd eiddo Ef, ac, Ymaith oddiwrth anghyfiawnder safed pob un sydd yn enwi enw’r Arglwydd.
20
Ond mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, eithr hefyd o bren ac o bridd, a rhai i anrhydedd a rhai i ddianrhydedd.
21
Os, gan hyny, y glanha neb ei hun oddiwrth y rhai hyn, bydd yn llestr i anrhydedd, wedi ei sancteiddio, yn gymmwys i’r meistr, i bob gwaith da yn ddarparedig.
22
Ond chwantau ieuengctid, ffo oddiwrthynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, heddwch, ynghyda’r rhai sy’n galw ar yr Arglwydd o galon bur.
23
Ond y cwestiynau ynfyd ac annysgedig, gochel, gan wybod y cenhedlant ymrafaelion;
24
a gwas yr Arglwydd ni ddylai ymrafaelio, eithr bod yn dirion tuag at bawb, yn athrawus, yn dioddef drygau,
25
mewn addfwynder yn cyweirio y rhai sy’n gwrthwynebu, os ysgatfydd y rhydd Duw iddynt edifeirwch i wybodaeth y gwirionedd,
26
ac ymsobri allan o fagl diafol, ar ol eu cymmeryd yn gaeth ganddo i’w ewyllys ef.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4