bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Timothy 4
2 Timothy 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Gorchymynaf i ti ger bron Duw a Christ Iesu, yr Hwn sydd ar fedr barnu y byw a’ r meirw, a thrwy Ei ymddangosiad a’i deyrnas;
2
pregetha’r Gair; bydd daer, mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, annog, gyda phob hir-ymaros a dysgad;
3
canys bydd amser pryd na fydd i athrawiaeth iachus mo’i dioddef ganddynt, eithr yn ol eu chwantau eu hunain iddynt eu hunain y pentyrrant ddysgawdwyr,
4
gan ferwino o ran eu clyw, ac oddiwrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant.
5
Ond tydi, bydd sobr ym mhob peth; dioddef ddrygau; gwna waith efengylwr; dy weinidogaeth cyflawna:
6
canys myfi wyf eisoes yn cael fy offrymmu, ac amser fy ymddattodiad sydd gerllaw.
7
Yr ymdrech ardderchog a ymdrechais;
8
y rhedeg a orphenais; y ffydd a gedwais; o hyn allan y mae mewn cadw i mi goron cyfiawnder, yr hon a rydd yr Arglwydd i mi yn y dydd hwnw, y Barnwr cyfiawn; ac nid yn unig i mi, eithr hefyd i bawb a garasant Ei ymddangosiad.
9
Bydd ddyfal i ddyfod attaf ar fyrder, canys Demas a’m gadawodd i,
10
wedi caru y byd presennol, ac a aeth i Thessalonica; Crescens i Galatia: Titus i Dalmatia; Luc sydd yn unig gyda mi.
11
Marc cymmer a dwg ef gyda thi, canys y mae efe yn fuddiol i mi i’r weinidogaeth.
12
Ond Tuchicus a ddanfonais i Ephesus.
13
Y gochl a adewais yn Troas gyda Carpus, pan ddelych, tyred â hi; ac â’r llyfrau, yn enwedig y memrynnau.
14
Alecsander y gof-copr, llawer o ddrygau a wnaeth efe i mi; iddo y tal yr Arglwydd yn ol ei weithredoedd;
15
yr hwn, gwylia dithau hefyd rhagddo, canys yn ddirfawr y gwrthsafodd ein hymadroddion ni.
16
Yn fy ymddiffyn cyntaf, nid oedd neb ynghyda mi, eithr pawb a’m gadawsant i:
17
iddynt na chyfrifer: ond yr Arglwydd a safodd gyda mi ac a’m nerthodd, fel trwof fi y byddai i’r Cyhoeddiad ei gyflawni, ac y clywai’r holl genhedloedd; a gwaredwyd fi o enau’r llew.
18
Gweryd yr Arglwydd fi oddiwrth bob gweithred ddrwg, ac a’m ceidw i’w deyrnas nefol; i’r Hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
19
Annerch Prisca ac Acwila, a theulu Onesiphorus. Erastus a arhosodd yn Corinth.
20
A Trophimus a adewais yn Miletus yn glaf.
21
Bydd ddyfal cyn y gauaf i ddyfod. Dy annerch y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Claudia a’r brodyr oll.
22
Yr Arglwydd fyddo gyda’th yspryd. Gras fyddo gyda chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4