bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Timothy 3
2 Timothy 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Ond hyn gwybydd, yn y dyddiau diweddaf y daw amseroedd caled,
2
canys bydd dynion yn hunan-gar, yn arian-gar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni,
3
yn annïolchgar, yn ansanctaidd, yn angharedig, yn anghymmodlawn, yn enllibaidd, yn anllad, yn anfwyn,
4
yn ddiserch i’r hyn sy dda, yn fradwyr, yn fyrbwyll, yn chwyddedig,
5
yn caru meluswedd yn fwy na charu Duw, a chanddynt rith duwioldeb, ond ei grym a wadasant;
6
oddiwrth y rhai hyn tro ymaith; canys o’r rhai hyn y mae y rhai sy’n ymgludo i’r teiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, gwrageddos yn cael eu harwain gan amryw chwantau,
7
beunydd yn dysgu, ac i wybodaeth y gwirionedd heb allu byth ddyfod.
8
Yn y modd y bu i Iannes ac Iambres wrthsefyll Mosheh, felly y rhai hyn hefyd sy’n gwrthsefyll y gwirionedd, dynion llygredig o ran eu meddwl, yn anghymmeradwy ynghylch y ffydd.
9
Ond nid ant rhagddynt ym mhellach, canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, fel y bu yr eiddynt hwythau hefyd.
10
Ond tydi a ganlynaist fy nysgad i, fy ymarweddiad, fy arfaeth, fy ffydd, fy hir-ymaros, fy nghariad, fy amynedd,
11
fy erlidiau, fy nioddefiadau; y fath bethau ag a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lustra; y fath erlidiau ag a ddioddefais; ac o’r cwbl y’m gwaredodd yr Arglwydd.
12
A phawb y sy’n ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir.
13
Ond drwg-ddynion ac hocedwyr a ant rhagddynt waeth-waeth, yn arwain ar gyfeiliorn, ac yn cael eu harwain ar gyfeiliorn.
14
Ond tydi, aros yn y pethau a ddysgaist ac y’th sicrhawyd am danynt, gan wybod am ba rai y dysgaist,
15
ac mai er’s yn faban y gwyddost y sanctaidd ysgrifeniadau, y rhai a allant dy wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy ffydd, yr hon sydd yng Nghrist Iesu.
16
Yr holl Ysgrythyr y sydd wedi ei rhoddi trwy ysprydoliaeth Duw sydd hefyd fuddiol er athrawiaeth, er argyhoeddiad, er cyweiriad, er y ddisgyblaeth y sydd yng nghyfiawnder,
17
fel mai perffaith fyddo dyn Duw, at bob gweithred dda yn berffeithiedig.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4