bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Colossians 1
Colossians 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Paul, apostol i Grist Iesu trwy ewyllys Duw, a Thimothëus ein brawd,
2
at y saint a’r brodyr ffyddlawn yng Nghrist, y rhai sydd yn Colossa: gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad.
3
Diolch yr ydym i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist,
4
gan weddïo yn wastadol drosoch, wedi clywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad y sydd genych tuag at yr holl saint;
5
o achos y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hwn y clywsoch o’r blaen yngair gwirionedd yr Efengyl,
6
yr hon a ddaeth attoch, fel y mae hefyd yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth ac yn cynnyddu, yn yr un modd ag yn eich plith chwi er y dydd y clywsoch am, ac y gwybuoch, ras Duw mewn gwirionedd;
7
fel y dysgasoch gan Epaphras ein cyd-was anwyl, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlawn weinidog i Grist;
8
yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad yn yr Yspryd.
9
O herwydd hyn, nyni hefyd er y dydd y clywsom, ni pheidiwn â gweddïo drosoch chwi, ac â deisyf y’ch cyflawner â gwybodaeth Ei ewyllys Ef ymhob doethineb a deall ysprydol,
10
i rodio yn deilwng o’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chan gynnyddu yngwybodaeth am Dduw;
11
yn cael eich nerthu â phob nerth yn ol cadernid Ei ogoniant, i bob dioddefgarwch a hir-ymaros gyda llawenydd;
12
gan ddiolch i’r Tad yr Hwn a’n cymmwysodd i ran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni;
13
yr Hwn a’n gwaredodd o feddiant y tywyllwch,
14
ac a’n trosglwyddodd i deyrnas Mab Ei gariad, yn yr Hwn y mae genym ein prynedigaeth, maddeuant ein pechodau,
15
yr Hwn yw llun y Duw anweledig, cyntaf-anedig yr holl greedigaeth,
16
canys Ynddo Ef y crewyd pob peth, yn y nefoedd ac ar y ddaear, y pethau gweledig a’r rhai anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai awdurdodau; yr oll, Trwyddo Ef ac Iddo Ef y’u crewyd;
17
ac Efe sydd cyn na’r cwbl; a’r cwbl Ynddo Ef y cyd-safant.
18
Ac Efe yw Pen y Corph, yr Eglwys, yr Hwn yw’r dechreuad, y cyntaf-anedig o’r meirw, fel ymhob peth y byddo Efe yn blaenori; canys Ynddo
19
Ef y boddlonwyd y Tad ar i’r holl gyflawnder drigo,
20
a Thrwyddo Ef gymmodi pob peth ag Ef Ei hun, wedi gwneuthur heddwch trwy waed Ei groes Ef, ïe, Trwyddo Ef, pa un bynnag ai’r pethau ar y ddaear, ai’r pethau yn y nefoedd.
21
A chwychwi a oeddych gynt wedi ymddieithrio ac yn elynion yn eich meddwl yn eich gweithredoedd drwg,
22
er hyny, yn awr a gymmododd Efe, ynghorph Ei gnawd trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno yn sanctaidd ac yn ddianaf,
23
ac yn ddiargyhoedd ger Ei fron, os parhewch yn y ffydd, wedi eich seilio ac yn ddiymmod, ac heb eich symmud ymaith oddiwrth obaith yr Efengyl, yr hon a glywsoch, yr hon a bregethwyd yn yr holl greedigaeth y sydd tan y nef, i’r hon y’m gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog.
24
Yn awr, llawenychu yr wyf yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni yr hyn sydd ar ol o gystuddiau Crist yn fy nghnawd, er mwyn Ei gorph Ef, yr hwn yw’r Eglwys,
25
i’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog yn ol disdeiniaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag attoch, i gyflawni gair Duw,
26
y dirgelwch a oedd guddiedig rhag yr oesoedd, a rhag y cenhedlaethau; ond yn awr yr eglurwyd ef i’w saint Ef,
27
i’r rhai yr ewyllysiodd Duw hyspysu pa beth yw golud gogoniaut y dirgelwch hwn ymhlith y cenhedloedd, yr hwn ddirgelwch yw Crist ynoch, gobaith y gogoniant,
28
yr hwn yr ydym ni yn Ei gyhoeddi, gan gynghori pob dyn, a chan ddysgu pob dyn ym mhob doethineb, fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist,
29
am yr hyn hefyd yr wyf yn llafurio, gan ymdrechu yn ol Ei weithrediad Ef yr hon sy’n gweithredu ynof gyda nerth.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4