bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Colossians 4
Colossians 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Y meistriaid, yr hyn sydd gyfiawn a chyfartalwch rhoddwch i’ch gweision, gan wybod fod genych chwithau hefyd Feistr yn y nef.
2
Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda thalu diolch,
3
gan weddïo hefyd drosom ni, ar i Dduw agor i ni ddrws i’r Gair, i lefaru dirgelwch Crist,
4
o achos yr hwn y’m rhwymwyd hefyd, fel yr amlygwyf ef fel y dylwn lefaru.
5
Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddiallan, gan brynu’r amser.
6
Bydded eich ymadrodd bob amser mewn gras, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y dylech atteb i bob dyn.
7
Fy holl helynt i a hyspysa Tuchicus i chwi, y brawd anwyl a’r gweinidog ffyddlawn a chyd-was yn yr Arglwydd;
8
yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn y peth hwn ei hun, fel y gwypoch ein helynt, ac y diddano eich calonnau,
9
ynghydag Onesimus y brawd ffyddlawn ac anwyl, yr hwn sydd o honoch. Yr oll a hyspysant i chwi, o ran y pethau sydd yma.
10
Eich annerch y mae Aristarchus fy nghyd-garcharor, a Marcus cefnder Barnabas (am yr hwn y derbyniasoch orchymynion;
11
os daw attoch, derbyniwch ef,) ac Ieshua, yr hwn a elwir Iwstus, y rhai ydynt o’r amdorriad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd-weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi.
12
Eich annerch y mae Epaphras, yr hwn sydd o honoch, gwas i Iesu Grist, bob amser yn ymdrechu trosoch yn ei weddïau, ar sefyll o honoch yn berffaith, ac wedi eich llawn-berswadio yn holl ewyllys Duw;
13
canys tystiolaethaf iddo fod ganddo lafur lawer trosoch chwi a’r rhai yn Laodicea a’r rhai yn Hierapolis.
14
Eich annerch y mae Luc, y meddyg anwyl, a Demas.
15
Annerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Numphas, a’r eglwys sydd yn eu tŷ.
16
Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid, a darllen o honoch chwithau hefyd hwnw o Laodicea;
17
a dywedwch wrth Archippus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar ei chyflawni o honot.
18
Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4
Recommended Reading
Commentary
Colossians Commentaries
→
Devotional
Colossians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)) Study Bible
→