bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Colossians 3
Colossians 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Gan hyny, os cyd-gyfodwyd chwi gyda Christ, y pethau sydd uchod ceisiwch, lle y mae Crist ar ddeheulaw Duw yn Ei eistedd;
2
y pethau sydd uchod syniwch, nid y pethau ar y ddaear;
3
canys wedi marw yr ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.
4
Pan fydd i Grist Ei amlygu, ein bywyd ni, yna chwychwi hefyd a amlygir ynghydag Ef mewn gogoniant.
5
Marwhewch, gan hyny, eich aelodau y sydd ar y ddaear, godineb, aflendid, gwŷn, dryg-chwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eulun-addoliaeth,
6
o herwydd y rhai dyfod y mae digofaint Duw ar feibion anufudd-dod;
7
yn y rhai yr oeddych chwithau hefyd yn rhodio gynt, pan oeddych yn byw ynddynt;
8
ond yn awr rhoddwch chwithau hefyd ymaith yr holl bethau hyn, digter, llid, drygioni, cabledd,
9
ymadrodd cywilyddus, allan o’ch genau: na chelwyddwch wrth eich gilydd, wedi diosg o honoch yr hen ddyn,
10
ynghyda’i weithredoedd, ac wedi rhoddi am danoch y newydd y sy’n cael ei adnewyddu i wybodaeth yn ol llun yr Hwn a’i creodd ef;
11
yn yr Hwn nid oes Groegwr ac Iwddew, amdorriad a diamdorriad, Barbariad a Scuthiad, caethwas a rhydd, eithr yr oll, ac yn yr oll, y mae Crist.
12
Rhoddwch am danoch, gan hyny, megis etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, ymysgaroedd trugaredd, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hir-ymaros,
13
gan gyd-ddwyn â’ch gilydd, a chan faddeu i’ch gilydd, os yw neb a chanddo gwyn yn erbyn neb; fel y bu i’ r Arglwydd faddeu i chwi, felly maddeuwch chwithau hefyd.
14
A thros yr holl rai hyn rhoddwch am danoch gariad, yr hwn yw cyd-gyssylltiad perffeithrwydd.
15
A bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd mewn un corph; a byddwch ddiolchgar.
16
Bydded i air Crist drigo ynoch yn oludog; ymhob doethineb yn dysgu a chynghori eich gilydd â psalmau, hymnau, ac odlau ysprydol; trwy ras yn canu yn eich calonnau i Dduw.
17
A phob peth o’r a wneloch, ar air neu ar weithred, bydded yr oll yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddioch i Dduw Dad Trwyddo Ef.
18
Y gwragedd ymostyngwch i’ch gwŷr, fel y gwedda yn yr Arglwydd.
19
Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon yn eu herbyn.
20
Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth, canys hyn sydd foddlonol yn yr Arglwydd.
21
Y tadau, na chyffrowch eich plant fel na ddigalonnont.
22
Y gweision ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ol y cnawd; nid â llygad-wasanaeth fel boddlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, gan ofni’r Arglwydd:
23
pa beth bynnag a wneloch, o’r galon gweithredwch, megis i’r Arglwydd ac nid i ddynion;
24
gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth; yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu;
25
canys yr hwn sy’n gwneuthur cam a gaiff yr hyn a wnaeth efe ar gam, ac nid oes derbyn gwyneb.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
Recommended Reading
Commentary
Colossians Commentaries
→
Devotional
Colossians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)) Study Bible
→