bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Colossians 2
Colossians 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Canys ewyllysio yr wyf i chwi wybod cymmaint ymdrech sydd arnaf trosoch chwi a’r rhai yn Laodicea, a chynnifer ag na welsant fy ngwyneb yn y cnawd,
2
fel y diddaner eu calonnau, a hwy wedi eu cyd-gyssylltu mewn cariad, ac i holl olud llawn-sicrwydd y deall, er gwybodaeth dirgelwch Duw,
3
sef Crist, yn yr Hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.
4
Hyn a ddywedaf, fel na bo i neb eich twyllo ag ymadrodd darbwyllawl:
5
canys os yn y cnawd yr wyf absennol; er hyny, yn yr yspryd, gyda chwi yr wyf, yn llawenychu a gweled eich trefn a dianwadalwch eich ffydd yng Nghrist.
6
Gan hyny, fel y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd,
7
Ynddo rhodiwch, wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu Ynddo, ac wedi eich sefydlu yn eich ffydd, fel y’ch dysgwyd, yn orlawn o dalu diolch.
8
Edrychwch na fydd neb yn gwneuthur yspail o honoch trwy ei philosophi a gwag hocced, yn ol traddodiad dynion,
9
yn ol egwyddorion y byd, ac nid yn ol Crist; canys Ynddo Ef y trig holl gyflawnder y Duwdod yn gorphorol,
10
ac Ynddo Ef yr ydych wedi eich cyflawni, yr Hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod;
11
yn yr Hwn hefyd yr amdorrwyd arnoch ag amdorriad nid o waith llaw, wrth ddodi ymaith gorph y cnawd, yn amdorriad Crist,
12
wedi eich claddu gydag Ef yn y bedydd, yn yr hwn y’ch cyd-gyfodwyd hefyd trwy ffydd yngweithrediad Duw, yr Hwn a’i cyfododd Ef o’r meirw.
13
A chwychwi, a chwi yn feirw trwy eich camweddau a diamdorriad eich cnawd, bywhaodd Efe chwi ynghydag Ef, wedi maddeu i ni ein holl gamweddau,
14
wedi dileu yr ysgrifen mewn ordeiniadau, yr hon oedd yn ein herbyn; a hi a gymmerodd Efe allan o’r ffordd, gan ei hoelio wrth y groes;
15
wedi diosg y tywysogaethau a’r awdurdodau, arddangosodd hwynt ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.
16
Gan hyny, na fydded i neb eich barnu chwi mewn bwyd nac mewn yfed, nac o ran dydd gwyl neu newydd-loer,
17
neu ddydd-Sabbath; y rhai ydynt gysgod y pethau ar ddyfod; ond y corph, eiddo Crist yw.
18
Na fydded i neb eich yspeilio o’ch gwobr, o’i wirfodd, trwy ostyngeiddrwydd ac addoli angylion, gan sefyll ar y pethau na welodd, yn ofer-chwyddo gan feddwl ei gnawd,
19
ac heb ddal ei afael yn y Pen, o’r Hwn y mae’r holl gorph, yn cael ei gyflenwi a’i gyd-gyssylltu trwy’r cymmalau a’r cyssylltiadau, yn cynnyddu â chynnydd Duw.
20
Os buoch feirw gyda Christ oddiwrth egwyddorion y byd, paham, fel yn byw yn y byd, y mae’r ordeiniadau genych,
21
Na chyffwrdd, Nac archwaetha, Na theimla, (y rhai ydynt oll er llygredigaeth wrth eu harfer,)
22
yn ol gorchymynion ac athrawiaethau dynion;
23
y rhai sydd a chanddynt yn wir rith doethineb mewn addoliad gwirfoddol a gostyngeiddrwydd a diarbedrwydd y corph, nid mewn neb rhyw werth o ran digonedd y cnawd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4