bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
James 1
James 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Iago, gwas i Dduw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth y sydd ar wasgar: llawenydd i chwi.
2
Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan mewn profedigaethau amrywiol y syrthioch,
3
gan wybod fod prawf eich ffydd yn gweithredu amynedd;
4
ond bydded i amynedd fod a’i gwaith perffaith ganddi, fel y byddoch yn berffaith a chyfan, heb fod ar ol mewn dim.
5
Ond os yw neb o honoch ar ol am ddoethineb, gofyned gan Dduw, yr Hwn sy’n rhoddi i bawb yn haelionus, ac nid yw’n dannod, a rhoddir iddo:
6
ond gofyned mewn ffydd, heb ammeu dim, canys yr hwn sydd yn ammeu, tebyg yw i dón y môr, y sy’n cael ei gyrru gan y gwynt a’i thaflu;
7
canys na feddylied y dyn hwnw y derbyn ddim gan yr Arglwydd,
8
ac efe yn ŵr dau-ddyblyg ei feddwl, yn ansefydlog yn ei holl ffyrdd.
9
Ond ymffrostied y brawd o isel radd, yn ei uchafiaeth;
10
a’r goludog, yn ei ddarostyngiad, canys fel blodeuyn glaswelltyn yr aiff heibio;
11
canys cyfodi y mae’r haul gyda’r gwynt poeth, ac yn sychu i fynu y glaswelltyn; a’i flodeuyn ef sy’n syrthio, a thegwch ei bryd yn darfod am dano; felly hefyd y goludog yn ei fynediadau y gwywa.
12
Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef temtasiwn; canys wedi myned yn brofedig, caiff goron y bywyd, yr hon a addawodd Efe i’r rhai sydd yn Ei garu.
13
Na fydded i neb, pan y’i temtir, ddywedyd, Oddiwrth Dduw y’m temtir; canys Duw, heb Ei demtio gan ddrygau y mae, ac nid yw Efe yn temtio neb;
14
ond pob un sy’n cael ei demtio, pan gan ei chwant ei hun y’i tynnir allan ac y’i llithir.
15
Wedi hyny chwant, wedi ymddwyn, sy’n esgor ar bechod; a phechod, wedi ei orphen, sy’n esgor ar farwolaeth.
16
Nac arweinier chwi ar gyfeiliorn, fy mrodyr anwyl.
17
Pob rhoddiad da, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dad y goleuadau, gyda’r Hwn nid oes cyfnewidiad na chysgod tröedigaeth.
18
Wedi ewyllysio o Hono, y cenhedlodd Efe ni trwy Air y gwirionedd, fel y byddem ni ryw flaen-ffrwyth o’i greaduriaid.
19
Gwyddoch hyn, fy mrodyr anwyl; ond bydded pob dyn yn esgud i glywed, yn hwyrfrydig i lefaru, yn hwyrfrydig i ddigofaint;
20
canys digofaint dyn, cyfiawnder Duw nis gweithreda.
21
O herwydd paham, gan roddi ymaith bob budreddi a helaethrwydd drygioni, gydag addfwynder derbyniwch y Gair a blannwyd ynoch, yr hwn sydd abl i gadw eich eneidiau.
22
Ond byddwch wneuthurwyr y Gair, ac nid gwrandawyr yn unig, yn twyllo eich hunain;
23
canys os yw neb yn wrandawr y Gair, ac nid yn wneuthurwr, hwn sydd debyg i ŵr yn ystyried ei wynebpryd naturiol mewn drych;
24
canys ystyria ei hun, ac ymaith yr â, ac yn uniawn yr anghofia pa fath o ddyn ydyw.
25
Ond yr hwn a ymgrymmodd i edrych yn y gyfraith berffaith, cyfraith rhyddid, ac a barhaodd ynddi, wedi myned nid yn wrandawr anghofus, eithr yn wneuthurwr gweithred, hwn, dedwydd yn ei wneuthuriad fydd.
26
Os yw neb yn meddwl ei fod yn wasanaethwr crefyddol, heb ffrwyno ei dafod, eithr yn twyllo ei galon, gwasanaeth crefyddol hwn sydd ofer.
27
Gwasanaeth crefyddol pur a dihalog ger bron Duw a’ r Tad yw hwn, sef ymweled â phlant amddifaid a gwragedd gweddwon, yn eu gorthrymder, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5