bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
James 5
James 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Deuwch yn awr, y goludogion; gwylwch dan udo ar eich gofidiau y sy’n dyfod arnoch.
2
Eich golud a bydrodd; a’ch gwisgoedd, gwyfed sydd yn eu hysu;
3
eich aur a’ch arian a rydasant, ac eu rhwd fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac a fwytty eich cnawd fel tân. Trysorasoch yn y dyddiau diweddaf!
4
Wele, cyflog y gweithwyr a fedasant eich meusydd, yr hwn a gam-attaliwyd, oddi wrthych y gwaedda; a bloeddiau y rhai a fedasant, i glustiau Iehofah y Tsabaoth y daethant i mewn.
5
Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrinasoch eich calon mewn dydd lladdedigaeth;
6
condemniasoch, lladdasoch y cyfiawn; nid yw yn ei osod ei hun i’ch erbyn.
7
Byddwch ymarhöus, gan hyny, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, yr amaethydd sy’n disgwyl am ffrwyth gwerthfawr y ddaear, yn ymarhöus am dano nes derbyn o hono y gwlaw cynnar a’r diweddar.
8
Byddwch chwithau hefyd ymarhöus; sefydlwch eich calonnau, canys dyfodiad yr Arglwydd sydd agos.
9
Na rwgnechwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na’ch barner; wele, y Barnwr, o flaen y drws y mae’n sefyll.
10
Cymmerwch, frodyr, megis siampl o ddrwg-driniaeth a hir-ymaros, y prophwydi, y rhai a lefarasant yn enw’r Arglwydd.
11
Wele, bendigedig a gyfrifwn y rhai a oddefasant. Am amynedd Iob y clywsoch; a diwedd yr Arglwydd a welsoch, mai mawr Ei dosturi yw’r Arglwydd ac yn drugarog.
12
Ond o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, na myn y nef, na myn y ddaear, na neb rhyw lw arall; ond bydded eich ïe chwi yn ïe, a’ch nage yn nage, fel nad tan farn y syrthioch.
13
Ai mewn adfyd y mae neb yn eich plith? Gweddïed.
14
Ai siriol yw neb? Caned fawl. Ai claf yw neb yn eich plith? Galwed atto henuriaid yr eglwys; a gweddïont drosto,
15
gan ei enneinio ag olew yn enw’r Arglwydd, a gweddi ffydd a achub yr afiach, ac ei gyfodi a wna’r Arglwydd: ac os pechodau a wnaeth efe, maddeuir iddo.
16
Cyffeswch, gan hyny, i’ch gilydd eich pechodau; a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer: llawer a ddichon gweddi’r cyfiawn, yn ei gweithrediad.
17
Elias oedd ddyn o gyffelyb wŷniau a ni, a thaer-weddïodd na byddai gwlaw; ac ni fu gwlaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis;
18
a thrachefn y gweddïodd, a’r nef a roddes wlaw, a’r ddaear a roes flaen-darddiad ei ffrwyth.
19
Fy mrodyr, os bydd i neb yn eich plith ei arwain ar gyfeiliorn oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef,
20
gwybydded y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddiwrth gyfeiliornad ei grefydd, achub enaid o farwolaeth, a gorchuddio lliaws o bechodau.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5