bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
James 2
James 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
Fy mrodyr, nid gyda derbyn gwynebau bydded genych ffydd ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant.
2
Canys os daw i mewn i’ch cynnull-fan ŵr â modrwy aur, mewn gwisg ddisglaer, a dyfod i mewn hefyd o dlodyn mewn gwisg fudr;
3
ac edrych o honoch ar yr hwn sydd wedi ymwisgo â’r wisg ddisglaer, a dywedyd, Tydi, eistedd yma mewn lle da, ac wrth y tlodyn y dywedoch, Tydi, saf accw,
4
neu eistedd is law fy ’stol-droed, oni wahanwyd chwi yn eich plith eich hunain, a myned yn farnwyr drwg eu meddyliau?
5
Gwrandewch, fy mrodyr anwyl; oni fu i Dduw ddewis y tlodion yn y byd i fod yn oludog mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd Efe i’r rhai sydd yn Ei garu Ef?
6
Ond chwychwi a ddianrhydeddasoch y tlodyn! Onid y rhai goludog sy’n tra-arglwyddiaethu arnoch, a hwynt-hwy sydd yn eich llusgo ger bron brawdleoedd?
7
Onid hwy sy’n cablu yr enw ardderchog a alwyd arnoch?
8
Beth bynnag, os y gyfraith frenhinol a gyflawnwch, yn ol yr Ysgrythyr, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun,” da yr ydych yn gwneuthur;
9
ond os derbyn gwyneb yr ydych, pechod yr ydych yn ei wneud, yn cael eich argyhoeddi gan y Gyfraith megis troseddwyr;
10
canys y neb sydd a’r holl Gyfraith yn cael ei chadw ganddo, ond tripio o hono mewn un pwngc, o’r oll yr aeth yn euog.
11
Canys yr Hwn a ddywedodd, “Na odineba,” a ddywedodd hefyd, “Na ladd;” ac os godinebu nad wyt, ond yn lladd, yn droseddwr y Gyfraith yr aethost.
12
Felly lleferwch, ac felly gwnewch, fel trwy gyfraith rhyddid i gael eich barnu;
13
canys y farn sydd ddi-drugaredd i’r hwn na wnaeth drugaredd. Ymffrostio y mae trugaredd uwch ben barn.
14
Pa beth yw’r llesad, fy mrodyr, os dywaid neb, Y mae ffydd genyf, ond gweithredoedd heb fod ganddo? A ddichon ffydd ei gadw ef?
15
Os brawd neu chwaer fydd noeth,
16
ac mewn eisiau ymborth beunyddiol, a dywedyd o ryw un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, a llanwer chwi, ond heb roddi o honoch iddynt y pethau angenrheidiol i’r corph, pa beth yw’r llesad?
17
Felly hefyd ffydd, os na fydd ganddi weithredoedd, marw yw ynddi ei hun.
18
Eithr fe ddywaid rhyw un, Tydi wyt a ffydd genyt; ac myfi wyf a gweithredoedd genyf: dangos i mi dy ffydd yn wahan oddiwrth dy weithredoedd; ac myfi a ddangosaf i ti, trwy fy ngweithredoedd, fy ffydd i.
19
Tydi wyt yn credu mai un yw Duw: da yr wyt yn gwneuthur; a’r cythreuliaid a gredant, ac a arswydant.
20
Ond a ewyllysi di wybod, O ddyn ofer, fod ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd, yn ddifudd?
21
Abraham ein tad, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymmodd Itsaac, ei fab, ar yr allor?
22
Gweli yr oedd ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd, a thrwy’r gweithredoedd ffydd a berffeithiwyd;
23
a chyflawnwyd yr Ysgrythyr y sy’n dywedyd, “A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder; a chyfaill Duw y galwyd ef.”
24
Gwelwch mai trwy weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid trwy ffydd ar ei phen ei hun.
25
Ac yr un ffunud, Rahab hefyd, y buttain, onid trwy weithredoedd y’i cyfiawnhawyd, wrth dderbyn o honi y cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall?
26
Canys fel y mae’r corph, yn wahan oddiwrth yr yspryd, yn farw; felly hefyd ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd, marw yw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5