bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
James 3
James 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Nac ewch yn llawer o ddysgawdwyr, fy mrodyr, gan wybod mai barnedigaeth fwy a dderbyniwn,
2
canys llawer tripiad a wnawn, yr oll o honom; ac os ar air na thripia neb, hwnw sydd ŵr perffaith, yn gallu ffrwyno’r holl gorph hefyd.
3
Ac os ffrwynau’r meirch a roddwn yn eu safnau fel yr ufuddhaont i ni, eu holl gorph hefyd a drown o amgylch.
4
Wele, y llongau hefyd, a hwy mor fawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, a droir o amgylch â llyw bychan iawn, lle y mae tuedd y llywydd yn ewyllysio.
5
Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, a phethau mawrion a ffrostia. Wele, gan mor ychydig dân cymmaint coed a gynneuir.
6
A’r tafod sydd dân; y byd o anghyfiawnder, y tafod, sydd yn ein haelodau, yr hwn sy’n halogi’r holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac yn cael ei osod yn fflam gan Gehenna.
7
Canys pob math o wyllt-filod ac ehediaid, ac o gropiedyddion, a phethau yn y môr, sy’n cael eu dofi, ac wedi cael eu dofi,
8
gan natur ddynol; ond y tafod, nid oes neb o ddynion a all ei ddofi ef: drwg diorphwys yw, gorlawn yw o wenwyn angeuol.
9
Ag ef y bendithiwn yr Arglwydd a Thad; ac ag ef y melldithiwn ddynion, y rhai ar gyffelybiaeth Duw y’u gwnaed.
10
O’r un genau, dyfod allan y mae bendithiad a melldithiad! Ni ddylai, fy mrodyr, y pethau hyn fod felly.
11
A ydyw ffynnon, o’r un llygad, yn tywallt allan yr hyn sydd felus a’r hyn sydd chwerw?
12
A all, fy mrodyr, pren ffigys ddwyn olifaid; neu winwydden, ffigys? Ni all chwaith yr hallt roddi dwfr melus.
13
Pwy sydd ddoeth a deallus yn eich plith? Dangosed, trwy ei ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb.
14
Ond os eiddigedd chwerw a chynnen sydd genych yn eich calon, nac ymffrostiwch, a chelwyddu,
15
yn erbyn y gwirionedd: nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; eithr daearol, anfeilaidd, cythreulig yw;
16
canys lle y mae eiddigedd a chynnen, yno y mae afreolaeth a phob gweithred ddrwg.
17
Ond y doethineb oddi uchod, yn gyntaf pur yw, a chwedi’n yn heddychlawn, addfwyn, hawdd ei berswadio, gorlawn o drugaredd a ffrwythau da, heb ammeuaeth,
18
ac yn ddiragrith: a ffrwyth cyfiawnder, mewn heddwch yr heuir i’r rhai sy’n gwneuthur heddwch.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5