bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Philippians 1
Philippians 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Paul a Thimothëus, gweision i Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y sydd yn Philippi, ynghyda’ r esgobion a’ r diaconiaid:
2
gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist,
3
Diolch yr wyf i’m Duw ymhob coffa am danoch,
4
beunydd ymhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll yn gwneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd,
5
oblegid eich cymdeithas o ran yr Efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yn awr;
6
yn hyderus am y peth hwn ei hun, y bydd i’r Hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist;
7
fel y mae yn gyfiawn i mi synied hyn yma am danoch oll, gan fy mod a chenych yn fy nghalon, a chwi oll yn fy rhwymau ac yn fy ymddiffyn a chadarnhad yr Efengyl, yn gyfrannogion â mi o ras.
8
Canys fy nhyst yw Duw, y modd yr hiraethaf am danoch oll, yn ymysgaroedd Iesu Grist.
9
A hyn yr wyf yn ei weddïo, y bo i’ch cariad ymhelaethu etto fwy-fwy mewn gwybodaeth a phob synwyr,
10
fel y cymmeradwyoch y pethau rhagorol, fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist,
11
wedi eich llenwi â ffrwyth cyfiawnder, yr hwn sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.
12
Ac ewyllysiwn wybod o honoch, frodyr, am y pethau yn fy nghylch, mai yn hytrach i gynnydd yr Efengyl y daethant,
13
fel y bu i’m rhwymau fyned yn amlwg yng Nghrist yn yr holl Pretorium ac i’r lleill i gyd;
14
ac i’r rhan fwyaf o’r brodyr yn yr Arglwydd, gan fod yn hyderus trwy fy rhwymau, feiddio yn fwy dros ben i lefaru Gair Duw yn ddiofn.
15
Rhai yn wir o genfigen a chynnen sy’n pregethu Crist, ond rhai hefyd o ewyllys da;
16
y naill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr Efengyl y’m gosodwyd;
17
a’r lleill o ymbleidio y cyhoeddant Grist, nid yn bur, gan feddwl cyfodi gorthrymder i’m rhwymau.
18
Pa beth, ynte, ond mai ymhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith neu mewn gwirionedd, Crist a gyhoeddir?
19
Ac yn hyn yr wyf yn llawenychu, ïe, ac y llawenychaf; canys gwn y bydd hyn yn troi allan i mi yn iachawdwriaeth trwy eich gweddi chwi,
20
ac arlwyad Yspryd Iesu Grist, yn ol fy nisgwyliad a’m gobaith nad mewn dim y’m cywilyddir; eithr ymhob hyder, fel bob amser, yn awr hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorph, pa un bynnag ai trwy fywyd ai trwy farwolaeth.
21
Canys i mi, byw yw Crist, a marw sydd elw.
22
Ond os byw yn y cnawd, os hyn yw i mi ffrwyth fy ngwaith,
23
pa beth a ddewisaf, nis gwn; a chyfyng yw arnaf rhwng y ddau, gan fod a chwant genyf i ymadael ac i fod gyda Christ,
24
canys llawer ychwaneg gwell yw; ond aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi.
25
A chenyf yr hyder hwn, gwn yr arhosaf, ac yr arhosaf ynghyda’r oll o honoch er eich cynnydd chwi a’ ch llawenydd yn y ffydd,
26
fel y bo i’ch ymffrost helaethu yng Nghrist Iesu, ynof fi, trwy fy mhresennoldeb trachefn gyda chwi.
27
Yn unig yn deilwng o Efengyl Crist bydded eich ymddygiad, fel pa un bynnag ai dyfod a’ch gweled a wnaf, ai yn absennol y clywaf eich helynt, eich bod yn sefyll yn un yspryd, ag un enaid yn cyd-ymdrech tros ffydd yr Efengyl,
28
ac heb eich dychrynu mewn dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn sydd iddynt hwy yn arwydd eglur o golledigaeth, ond o’ch iachawdwriaeth chwi; a hyny oddiwrth Dduw,
29
canys i chwi y rhoddwyd tros Grist, nid yn unig gredu Ynddo, eithr hefyd ddioddef Trosto;
30
a chyda’r un ymdrech genych ag a welsoch ynof, ac yn awr a glywch ei fod ynof.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4