bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Philippians 3
Philippians 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Yn ddiweddaf, fy mrodyr, llawenychwch yn yr Arglwydd. Ysgrifenu yr un pethau attoch, i mi yn wir nid yw flin, ond i chwi diogel yw.
2
Bydded eich llygaid ar y cwn; bydded eich llygaid ar y drwg-weithredwyr; bydded eich llygaid ar y cyd-dorriad;
3
canys nyni yw’r amdorriad, y rhai trwy Yspryd Duw yr ym yn gwasanaethu ac yn ymffrostio yng Nghrist Iesu, ac nid yn y cnawd yn ymddiried;
4
er fy mod i ag achos ymddiried hyd yn oed yn y cnawd. Os meddylia neb arall ei fod ag achos ymddiried yn y cnawd, yr wyf fi yn hytrach;
5
gydag amdorriad ar yr wythfed dydd; o genedl Israel; o lwyth Beniamin; Hebrewr o Hebreaid; yn ol y Gyfraith yn Pharishead;
6
yn ol sel yn erlid yr eglwys; yn ol y cyfiawnder y sydd yn y Gyfraith, wedi bod yn ddiargyhoedd.
7
Eithr y pethau a oedd i mi yn elwau, y rhai hyn a gyfrifais, er mwyn Crist, yn golled.
8
Eithr, yn wir, yr wyf yn cyfrif pob peth yn golled o herwydd rhagoroldeb gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd, er mwyn yr Hwn pob peth a gollwyd i mi, ac eu cyfrif yn dom yr wyf, fel y bo Crist wedi Ei ennill genyf,
9
ac y’m caffer Ynddo Ef, nid a chenyf fy nghyfiawnder y sydd o’r Gyfraith, eithr yr hwn sydd trwy ffydd yng Nghrist,
10
y cyfiawnder oddiwrth Dduw trwy ffydd; er mwyn Ei adnabod Ef, a gallu Ei adgyfodiad, a chymdeithas Ei ddioddefiadau, gan gyd-ffurfio fy hun â’i farwolaeth Ef,
11
os mewn rhyw fodd y cyrhaeddaf yr adgyfodiad oddiwrth y meirw.
12
Nid fy mod eisoes wedi cael, neu eisoes wedi fy mherffeithio; ond dilyn yr wyf, os hefyd yr ymaflwyf yn y peth er mwyn yr hwn yr ymaflwyd ynof hefyd gan Grist Iesu.
13
Brodyr, myfi a gyfrifaf fy hun na fu i mi etto ymaflyd; ond un peth, gan anghofio y pethau sydd o’r tu cefn, a chan ymestyn at y pethau sydd o’r tu blaen,
14
at y nod yr wyf yn dilyn, at gamp galwedigaeth fry Duw yng Nghrist Iesu.
15
Cynnifer o honom, gan hyny, ag sydd berffaith, hyn syniwn; ac os rhyw ffordd arall y syniwch ddim, hyn hefyd y bydd i Dduw ei ddatguddio i chwi:
16
er hyny, at yr hyn y daethom, yn yr unrhyw cerddom.
17
Byddwch efelychwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sy’n rhodio felly, fel y mae genych ni yn siampl:
18
canys llawer sy’n rhodio, am y rhai mynych y dywedais wrthych, ac yn awr, ïe, dan wylo, yr wyf yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt,
19
diwedd y rhai yw distryw, Duw y rhai yw eu bol, a’u gogoniant yn eu cywilydd; y rhai, y pethau daearol a syniant;
20
canys ein dinasyddiaeth ni, yn y nefoedd y mae; o’r lle y disgwyliwn hefyd iachawdwr,
21
yr Arglwydd Iesu Grist, yr Hwn a ddull-newidia gorph ein hymostyngiad i fod yn un-ffurf â chorph Ei ogoniant, yn ol gweithrediad Ei allu i ddarostwng pob peth Iddo Ei hun.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4