bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Philippians 2
Philippians 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Os oes, gan hyny, ryw ddiddanwch yng Nghrist, os rhyw gysur cariad, os rhyw gymdeithas yr Yspryd, os rhyw ymysgaroedd a thosturiaethau,
2
cyflawnwch fy llawenydd i, fel yr un peth y synioch, gyda’r un cariad genych, ac un enaid genych, ac yr un peth yn eich synied.
3
Na fydded dim trwy ymbleidio, na thrwy wag-ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd yn tybied eich gilydd yn rhagori ar chwi eich hunain;
4
nid yn edrych, bob un, at eich pethau eich hunain, eithr hefyd at yr eiddo eraill, bob un o honoch.
5
Hyn syniwch ynoch, yr hyn oedd hefyd yng Nghrist Iesu,
6
yr Hwn, ac Efe yn ffurf Duw, nid peth i’w gipio a dybiodd Efe fod yn gystal â Duw;
7
eithr Ef Ei hun a waghaodd Efe, ffurf gwas yn cael ei chymmeryd Ganddo, ac yng ngyffelybiaeth dynion Ei eni;
8
a chan Ei gael mewn dull fel dyn, gostyngodd Ei hun, gan fyned yn ufudd hyd angau, ïe, angau’r groes.
9
O herwydd paham Duw a’i tra-dyrchafodd Ef, a rhoddes Iddo yr enw sydd goruwch pob enw,
10
fel yn enw’r Iesu y byddai i bob glin blygu, o’r nefolion a’r daearolion, a’r tan-ddaearolion;
11
ac y byddai i bob tafod gyffesu mai’r Arglwydd yw Iesu Grist, er gogoniant Duw Dad.
12
Felly, fy anwylyd, fel bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy mhresennoldeb yn unig, eithr yn awr yn fwy o lawer yn fy absennoldeb, gydag ofn a dychryn, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain;
13
canys Duw yw’r Hwn sy’n gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu, er Ei foddlonrwydd.
14
Gwnewch bob peth heb rwgnach ac ymresymiadau,
15
fel y byddoch yn ddianaf a diniweid, yn blant Duw heb fefl ynghanol cenhedlaeth wyrog a throfaus, ymhlith y rhai yr ymddangoswch fel goleuadau yn y byd;
16
yn cynnal gair y bywyd; yn ymffrost i mi yn nydd Crist, mai nid yn ofer y rhedais, ac nid yn ofer y llafuriais.
17
Eithr, ac os offrymmir fi ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenychu yr wyf ac yn cyd-lawenychu a’r oll o honoch;
18
ac yn yr un modd llawenychwch chwi hefyd, a chyd-lawenychwch â mi.
19
A gobeithio yr wyf yn yr Arglwydd Iesu, ddanfon Timothëus ar fyrder attoch, fel y’m llonner gan wybod eich helynt:
20
canys nid oes genyf neb o gyffelyb enaid,
21
yr hwn a wir-brydera am eich helynt, canys pawb, y pethau hwy eu hunain a geisiant,
22
ac nid pethau Iesu Grist: ond y prawf o hono ef a wyddoch, mai fel i dad y gwasanaetha plentyn, ynghyda mi y gwasanaethodd tua’r Efengyl.
23
Hwn, ynte, gan hyny, y gobeithiaf ei ddanfon, pan welwyf fy helynt i, allan o law;
24
ac hyderaf yn yr Arglwydd y bydd i mi fy hun ddyfod ar fyrder.
25
Ac angenrheidiol a dybiais ddanfon attoch Epaphroditus, y brawd ac fy nghydweithiwr a chyd-filwr, ond eich cennad chwi a gweinidog i’m cyfreidiau,
26
canys hiraethu am yr oll o honoch yr oedd efe, ac yn athrist iawn o herwydd clywed o honoch y bu efe glaf;
27
canys claf y bu efe yn agos i angau; eithr Duw a drugarhaodd wrtho ef, ac nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, fel na fyddai genyf dristwch ar dristwch.
28
Yn ddyfalach, gan hyny, y danfonais ef, fel wedi ei weled ef drachefn y llawenychech, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch.
29
Derbyniwch ef, gan hyny, yn yr Arglwydd, gyda phob llawenydd; a’r cyfryw rai, daliwch hwynt mewn anrhydedd:
30
canys oblegid gwaith Crist, hyd at angau y nesaodd, gan beryglu ei einioes fel y cyflawnai eich diffyg chwi yn y gwasanaeth tuag attaf fi.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4