bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Philippians 4
Philippians 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Felly, fy mrodyr anwyl, ac mewn hiraeth genyf, fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd.
2
I Euodia yr attolygaf, ac i Suntuche yr attolygaf, fod â’r un synied ganddynt yn yr Arglwydd.
3
Ie, gofyn yr wyf i ti hefyd, wir gymmar, gymmorth y gwragedd hyn, y rhai a gyd-lafuriasant yn yr Efengyl â mi, ynghyda Chlement hefyd a’m cyd-weithwyr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.
4
Llawenychwch yn yr Arglwydd yn wastadol. Trachefn dywedaf, Llawenychwch.
5
Bydded eich uniondeb yn hyspys i bob dyn.
6
Yr Arglwydd, agos yw. Am ddim na phryderwch; eithr ymhob peth mewn gweddi ac ymbil ynghyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau yn hyspys ger bron Duw;
7
a thangnefedd Dduw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
8
Yn ddiweddaf, frodyr, cynnifer bethau ag sydd wir, cynnifer ag sydd ardderchog, cynnifer ag sydd gyfiawn, cynnifer ag sydd bur, cynnifer ag sydd hawddgar, cynnifer ag sydd ganmoladwy; od oes dim rhinwedd, ac od oes dim clod, am y pethau hyn meddyliwch.
9
Ac y pethau a ddysgasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof, y pethau hyn gwnewch; a Duw’r heddwch fydd gyda chwi.
10
Llawenychais yn yr Arglwydd yn fawr o herwydd yn awr adfywio o honoch synied trosof; am yr hyn y syniasoch, ond amser cyfaddas nid oedd genych.
11
Nid mai yn ol diffyg yr wyf yn dywedyd, canys myfi a ddysgais ym mha bethau bynnag yr wyf, fod yn foddlawn.
12
Gwn pa sut i’m hiselu, gwn hefyd pa sut i fod ag helaethrwydd genyf; ym mhob dim, ac ym mhob peth, y’m haddysgwyd i fod yn llawn ac i fod yn newynog, ac i fod ag helaethrwydd genyf, ac i fod mewn eisiau.
13
Pob peth a fedraf trwy’r Hwn sydd yn fy nerthu.
14
Er hyny, da y gwnaethoch gan cydgyfrannogi â’m gorthrymder i;
15
a gwybod yr ydych chwi hefyd, Philippiaid, yn nechreuad yr Efengyl, pan aethum allan o Macedonia, nad oedd un eglwys a gyd-gyfrannogodd â myfi o ran rhoddi a derbyn, oddieithr chwychwi yn unig,
16
canys hyd yn oed yn Thessalonica, unwaith a dwywaith hefyd, at fy anghenrhaid y danfonasoch i mi.
17
Nid am fy mod yn ceisio’r rhodd, eithr ceisio yr wyf y ffrwyth sy’n amlhau erbyn eich cyfrif.
18
Genyf y mae pob peth, ac mewn helaethrwydd: llanwyd fi, wedi derbyn gan Epaphroditus y pethau oddi wrthych, arogl peraidd, aberth cymmeradwy, boddlawn gan Dduw.
19
Ac fy Nuw a gyflawna eich holl raid chwi, yn ol Ei olud mewn gogoniant, yng Nghrist Iesu.
20
Ac i’n Duw a’n Tad byddo’ r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
21
Annerchwch yr holl saint yng Nghrist Iesu. Eich annerch y mae’r brodyr sydd gyda mi.
22
Eich annerch y mae’r holl saint, ac yn enwedig y rhai o dylwyth Cesar.
23
Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch yspryd chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4