bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 John 1
1 John 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
1
Yr hyn oedd ar y dechrau, yr hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei weled â’n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno ac a deimlodd ein dwylo am air y bywyd, —
2
ac amlygwyd y bywyd, ac yr ydym wedi gweled ac yn tystio ac yn cyhoeddi i chwi y bywyd tragwyddol, a oedd gyda’r Tad ac a amlygwyd i ni, —
3
yr hyn yr ydym wedi ei weled a’i glywed yr ydym yn ei gyhoeddi i chwithau hefyd, er mwyn i chwithau gael cymundeb gyda ni; ac yn wir ein cymundeb ni, gyda’r Tad a chyda’i Fab Iesu Grist y mae.
4
A hyn yr ydym yn ei ysgrifennu atoch er mwyn bod ein llawenydd wedi ei gyflawni.
5
A hon yw’r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo Ef ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwithau, mai goleuni yw Duw, a thywyllwch nid oes ynddo ddim.
6
Os dywedwn fod gennym gymundeb gydag Ef a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dywedyd celwydd ac nid ydym yn gwneuthur y gwir.
7
Ond os ydym yn rhodio yn y goleuni, fel y mae Ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb gyda’n gilydd, ac y mae gwaed Iesu Ei Fab Ef yn ein glanhau ni o bob pechod.
8
Os dywedwn nad oes gennym bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain ac nid yw’r gwir ynom.
9
Os addefwn ein pechodau, ffyddlon yw Ef a chyfiawn i faddau i ni ein pechodau a’n glanhau o bob anghyfiawnder.
10
Os dywedwn ein bod heb bechu, yr ydym yn ei wneuthur Ef yn gelwyddog ac nid yw Ei air Ef ynom.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5