bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 John 5
1 John 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Pob un sy’n credu mai Iesu ydyw’r Eneiniog, o Dduw y mae wedi ei genhedlu, ac y mae pob un sy’n caru yr hwn a genhedlodd yn caru yr hwn a genhedlwyd ohono.
2
Wrth hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan garom Dduw a phan wnelom Ei orchmynion Ef,
3
oherwydd hyn yw caru Duw, gadw ohonom Ei orchmynion Ef. A’i orchmynion Ef, nid ydynt drymion,
4
oherwydd y mae popeth sy’n hanfod o Dduw yn gorchfygu’r byd. A hon yw’r fuddugoliaeth sy’n gorchfygu’r byd, ein ffydd ni.
5
Pwy yw’r hwn sy’n gorchfygu’r byd ond yr hwn sy’n credu mai Iesu yw Mab Duw?
6
Dyma’r hwn a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid yn y dŵr yn unig ond yn y dŵr ac yn y gwaed: a’r ysbryd sydd yn tystio, oherwydd mai’r ysbryd yw’r gwirionedd.
7
Canys y mae rhai sy’n tystio yn dri,
8
yr ysbryd, a’r dŵr a’r gwaed, a’r tri sydd yn gytûn.
9
Os derbyniwn dystiolaeth dynion, y mae tystiolaeth Duw yn fwy am mai hon yw tystiolaeth Duw, Ei fod wedi tystio am Ei Fab.
10
Y mae gan yr hwn sy’n credu ym Mab Duw y dystiolaeth ynddo’i hun: y mae’r hwn nad yw’n credu Duw, wedi Ei wneuthur Ef yn gelwyddog, am nad yw wedi credu yn y dystiolaeth a dystiodd Duw am Ei Fab.
11
A hon yw’r dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol, a’r bywyd hwn yn Ei Fab Ef y mae.
12
Gan yr hwn y mae’r Mab ganddo y mae bywyd, ac nid oes fywyd gan yr hwn nid yw Mab Duw ganddo.
13
Hyn a ysgrifennais atoch er mwyn i chwi wybod bod gennych fywyd tragwyddol, atoch chwi sydd yn credu yn enw Mab Duw.
14
A hwn yw’r hyder sydd gennym tuag ato Ef, Ei fod yn gwrando arnom, os gofynnwn unpeth yn ôl Ei ewyllys.
15
Ac os gwyddom Ei fod yn gwrando arnom, pa beth bynnag a ofynnom, gwyddom fod gennym y pethau a ofynasom ganddo.
16
Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod heb fod i farwolaeth, fe ofyn ac fe rydd iddo fywyd, i’r rhai nad ydynt yn pechu i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth; nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd am iddo ddeisyfu.
17
Pob anwiredd, pechod yw, ac y mae pechod heb fod i farwolaeth.
18
Gwyddom nad oes neb sy’n hanfod o Dduw yn pechu, ond y mae’r hwn a hanoedd o Dduw yn ei warchod ef, ac nid yw’r un drwg yn cyffwrdd ag ef.
19
Gwyddom ein bod o Dduw, a bod y byd yn gyfan yng ngafael yr un drwg.
20
Gwyddom fod Mab Duw wedi dyfod ac wedi rhoddi i ni synnwyr i adnabod yr un gwir. Ac yr ydym yn yr un gwir, yn Ei Fab Iesu Grist. Hwn yw y gwir Dduw a bywyd tragwyddol.
21
Blant bach, gwyliwch arnoch rhag eilunod.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5