bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 John 3
1 John 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
1
Gwelwch y fath gariad y mae’r Tad wedi ei roddi i ni, cael ein galw yn blant Duw, ac yr ydym (yn blant Duw). Oherwydd hyn nid yw’r byd yn ein hadnabod, am nad adnabu Ef.
2
Rai annwyl, plant Duw ydym yn awr, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Gwyddom, pan amlyger, y byddwn debyg iddo Ef, oherwydd gwelwn Ef fel y mae.
3
Ac y mae pob un y mae ganddo’r gobaith hwn ynddo Ef yn ei lanhau ei hun, fel y mae Yntau’n lân.
4
Y mae pob un sy’n gwneuthur pechod yn gwneuthur anghyfraith hefyd, ac anghyfraith yw pechod.
5
A gwyddoch Ei fod Ef wedi ymamlygu er mwyn tynnu ymaith bechodau, ac nid oes bechod ynddo Ef.
6
Nid oes neb sy’n aros ynddo Ef yn pechu. Nid oes neb sy’n pechu wedi Ei weled nac yn Ei adnabod.
7
Blant bach, nac arweinied neb chwi ar gyfeiliorn. Y mae’r neb sy’n gwneuthur cyfiawnder yn gyfiawn, fel y mae Ef yn gyfiawn.
8
Y neb sy’n gwneuthur pechod, o’r diafol y mae, oherwydd y mae’r diafol yn pechu o’r dechrau. I hyn yr amlygwyd mab Duw, — er mwyn iddo ddatod gweithredoedd y diafol.
9
Nid oes neb sydd yn hanfod o Dduw yn gwneuthur pechod, gan fod Ei had Ef yn aros ynddo. Ac ni all bechu am ei fod yn hanfod o Dduw.
10
Yn hyn y mae’n hysbys blant Duw a phlant y diafol. Nid oes neb nad yw’n gwneuthur cyfiawnder o Dduw, ac nad yw’n caru ei frawd;
11
canys hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechrau, garu ohonom ein gilydd;
12
nid fel yr oedd Cain o’r un drwg, a lladd ei frawd. Ac oherwydd pa beth y lladdodd ef? Am fod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a gweithredoedd ei frawd yn gyfiawn.
13
Na ryfeddwch, frodyr, os ydyw’r byd yn eich casáu.
14
Gwyddom ni ein bod wedi croesi o farwolaeth i fywyd, gan ein bod yn caru’r brodyr; y mae’r hwn nad yw’n caru yn aros ym marwolaeth.
15
Y mae pob un sy’n casáu ei frawd yn llofrudd, a gwyddoch nad oes gan neb llofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo.
16
Wrth hyn yr adwaenom y cariad, Ei fod Ef wedi rhoddi drosom ni Ei fywyd a dylem ninnau roddi ein bywydau dros y brodyr.
17
Ond y neb sydd mewn bywoliaeth yn y byd ac yn edrych ar ei frawd ac yntau mewn eisiau, a chau ei galon yn ei erbyn, pa fodd y mae cariad Duw yn aros yn hwnnw?
18
Blant bach, peidiwn â charu ar air nac ar dafod, ond mewn gweithred a gwirionedd.
19
Wrth hyn y cawn wybod ein bod o’r gwir, a thawelu ein calon o’i flaen Ef,
20
ym mha beth bynnag y condemnia ein calon ni, am fod Duw yn fwy na’n calon ni ac yn gwybod y cwbl.
21
Rai annwyl, onid yw ein calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder tuag at Dduw,
22
ac yr ydym yn derbyn ganddo ba beth bynnag a ofynnom, am ein bod yn cadw Ei orchmynion Ef, ac yn gwneuthur pethau cymeradwy yn Ei olwg Ef.
23
A hwn yw Ei orchymyn Ef, gredu ohonom yn enw Ei Fab Ef Iesu Grist a charu ein gilydd fel y rhoes orchymyn inni.
24
Ac y mae’r hwn sy’n cadw Ei orchmynion Ef yn aros ynddo Ef, ac Yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom Ei fod yn aros ynom, o’r ysbryd a roes i ni.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5