bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
1 John 2
1 John 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
Fy mhlant bach, yr wyf yn ysgrifennu hyn atoch fel na phechoch. Ac os pecha neb, y mae gennym ddadleuydd gyda’r Tad, Iesu Grist, un cyfiawn.
2
Ac iawn yw Ef am ein pechodau ni, ac yn wir nid am ein pechodau ni’n unig ond am yr holl fyd.
3
A thrwy hyn y gwyddom ein bod yn ei adnabod Ef, os ydym yn cadw Ei orchmynion.
4
Y mae’r hwn sydd yn dywedyd “yr wyf yn Ei adnabod,” ac yntau heb fod yn cadw Ei orchmynion, yn gelwyddog, ac nid yw’r gwir ynddo ef.
5
Ond pwy bynnag sy’n cadw Ei air, mewn gwirionedd y mae cariad Duw wedi Ei berffeithio ynddo ef.
6
Drwy hyn y gwyddom ein bod ynddo Ef: dylai’r hwn sy’n dywedyd ei fod yn aros ynddo Ef rodio ei hunan hefyd fel y rhodiodd Ef.
7
Rai annwyl, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, ond hen orchymyn a oedd gennych o’r dechrau. Yr hen orchymyn, y gair a glywsoch ydyw.
8
Eto, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, — yr hyn sydd wir ynddo Ef ac ynoch chwithau, — gan fod y tywyllwch yn myned heibio a’r goleuni gwirioneddol yn llewyrchu eisoes.
9
Y neb sy’n dywedyd ei fod yn y goleuni ac yntau’n casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd yn hyn.
10
Y neb sy’n caru ei frawd, yn y goleuni y mae’n aros, a magl nid oes ynddo ef.
11
Ond y neb sy’n casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae ac yn y tywyllwch y mae’n rhodio, ac ni ŵyr i ba le y mae’n myned, am fod y tywyllwch wedi dallu ei lygaid.
12
Yr wyf yn ysgrifennu atoch, blant, am fod eich pechodau wedi eu maddau drwy Ei enw Ef.
13
Yr wyf yn ysgrifennu atoch chwi, dadau, am eich bod yn adnabod yr Hwn sydd o’r dechrau. Yr wyf yn ysgrifennu atoch chwi, rai ieuainc, am eich bod wedi gorchfygu’r un drwg. Ysgrifennais atoch chwi, blant, am eich bod yn adnabod y Tad.
14
Ysgrifennais atoch, dadau, am eich bod yn adnabod yr Hwn sydd o’r dechrau. Ysgrifennais atoch, rai ieuainc, am eich bod yn gryfion a bod gair Duw yn aros ynoch a’ch bod wedi gorchfygu’r un drwg.
15
Na cherwch y byd na’r hyn sydd yn y byd. Os yw neb yn caru’r byd, nid yw cariad y Tad ynddo,
16
am fod y cwbl sydd yn y byd, chwant y cnawd a chwant y llygaid a rhodres bywyd, heb fod o’r Tad, ond o’r byd y mae.
17
Ac y mae’r byd yn myned heibio a’i chwant ef. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, y mae ef yn aros yn dragywydd.
18
Blant bach, dyma’r awr ddiwethaf, ac fel y clywsoch fod yr Anghrist yn dyfod, yn awr dyma anghristiau lawer; wrth hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw.
19
Ohonom ni yr aethant allan, ond nid oeddynt ohonom ni, oherwydd pe buasent ohonom ni, buasent wedi aros gyda ni, ond er mwyn amlygu nad ohonom ni y mae un ohonynt.
20
Ond y mae gennych chwi eneiniad oddiwrth y sanctaidd, ac yr ydych yn gwybod oll.
21
Nid ysgrifennais atoch am na wyddoch y gwir, ond am eich bod yn ei wybod, ac am nad oes un celwydd o’r gwir.
22
Pwy yw’r celwyddog ond yr hwn sy’n gwadu nad Iesu yw’r Eneiniog? Hwnnw yw’r Anghrist sydd yn gwadu’r Tad a’r Mab.
23
Pob un sy’n gwadu’r Mab, nid yw’r Tad ganddo ychwaith; yr hwn sy’n cydnabod y Mab, y mae’r Tad ganddo hefyd.
24
Chwithau, yr hyn a glywsoch o’r dechrau, arhosed ynoch. Os ynoch yr erys yr hyn a glywsoch o’r dechrau, byddwch chwithau yn aros hefyd yn y Tad a’r Mab.
25
A hon yw’r addewid a addawodd Ef i ni, y bywyd tragwyddol.
26
Hyn a ysgrifennais atoch am y rhai sydd yn eich arwain ar gyfeiliorn.
27
A chwithau, y mae’r eneiniad a gawsoch ganddo Ef yn aros ynoch, ac nid oes angen arnoch i neb eich dysgu chwi, ond fel y mae Ei eneiniad Ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw ac nid yw’n gelwydd, ac fel y dysgodd chwi, arhoswch ynddo.
28
Ac yn awr, blant bach, arhoswch ynddo er mwyn bod hyder gennym pan ymddangoso ac na chywilyddiom rhagddo Ef yn Ei ddyfodiad.
29
Os gwyddoch Ei fod yn gyfiawn, gwybyddwch fod pob un hefyd sy’n gwneuthur cyfiawnder yn hanfod ohono Ef.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5