bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Colossians 1
Colossians 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Paul apostol Crist Iesu drwy ewyllys Duw, a’r brawd Timotheus,
2
at y saint yng Ngholosae a’r brodyr ffyddlon yng Nghrist; gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad.
3
Diolchwn i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, bob amser wrth weddïo drosoch,
4
wedi clywed ohonom am eich ffydd chwi yng Nghrist Iesu a’r cariad sydd gennych tuag at yr holl saint
5
ar gyfrif y gobaith sydd yng nghadw i chwi yn y nefoedd, yr hwn y clywsoch gynt amdano yng ngair gwirionedd yr efengyl
6
sydd wedi dyfod atoch, megis y mae yn yr holl fyd yn dwyn ffrwyth a chynyddu fel y mae ynoch chwithau hefyd, o’r dydd y clywsoch am ras Duw a’i wir adnabod,
7
megis y dysgasoch oddi wrth Epaffras ein cyd-was annwyl, sydd yn weinidog ffyddlon i Grist drosoch chwi,
8
ac a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd.
9
Oherwydd hyn ninnau hefyd, o’r dydd y clywsom, ni pheidiwn â gweddïo drosoch a deisyf eich cyflenwi â gwybodaeth o’i ewyllys ef ym mhob doethineb a dirnadaeth ysbrydol,
10
i rodio yn deilwng o’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda a chynyddu mewn gwybodaeth o Dduw,
11
wedi eich nerthu ym mhob nerth yn ôl grymuster ei ogoniant ef i bob dyfalbarhau a hirymaros,
12
gan ddiolch gyda llawenydd i’r Tad a’ch cymhwysodd i gyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni;
13
gwaredodd ni o afael y tywyllwch a’n symud drosodd i deyrnas Mab ei gariad —
14
ynddo ef y mae gennym y prynedigaeth, maddeuant pechodau;
15
yr hwn yw delw’r Duw anweledig, cyntaf-anedig yr holl greadigaeth,
16
canys ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, y pethau gweledig a’r pethau anweledig, pa un bynnag ai gorseddau ai arglwyddiaethau ai llywodraethau ai awdurdodau; pob peth a grewyd trwyddo ef ac erddo ef.
17
Ac y mae ef cyn pob peth, ac ynddo ef y cyd-saif pob peth,
18
ac ef yw pen y corff, yr eglwys; ef yw’r dechrau, cyntaf-anedig o’r meirwon, fel y byddai ef ei hun yn blaenori ym mhob dim,
19
am mai ynddo ef y gwelodd yr holl gyflawnder yn dda breswylio
20
a thrwyddo ef lwyr gymodi pob dim ag ef ei hun, wedi gwneuthur heddwch drwy waed ei groes — trwyddo ef — pa un bynnag ai pethau ar y ddaear ai pethau yn y nefoedd.
21
A chwithau, a oedd gynt wedi ymddieithrio ac yn elyniaethus eich meddwl mewn gweithredoedd drwg, yn awr a lwyr gymododd ef
22
yng nghorff ei gnawd drwy farwolaeth, i’ch cyflwyno yn sanctaidd a di-fefl a diargyhoedd ger ei fron,
23
os arhoswch yn y ffydd, wedi eich sylfaenu ac yn ddiysgog a heb fod yn symud oddi wrth obaith yr efengyl a glywsoch, a gyhoeddwyd ymhlith pob creadur dan y nef, ac y’m gwnaethpwyd i, Paul, yn weinidog iddi.
24
Yn awr llawenhaf yn fy nioddefiadau drosoch, a chyflanwaf yr hyn sydd yn eisiau o gystuddiau Crist yn fy nghnawd er mwyn ei gorff, yr hwn yw yr eglwys,
25
y’m gwnaethpwyd i yn weinidog iddi, yn ôl goruchwyliaeth Duw a roddwyd i mi er eich mwyn i gyflawni gair Duw,
26
y dirgelwch a guddiwyd oddi wrth yr oesoedd ac oddi wrth y cenedlaethau — eithr yn awr a amlygwyd i’w saint,
27
yr ewyllysiodd Duw wneuthur yn hysbys iddynt pa beth yw cyfoeth gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y cenhedloedd, yr hwn yw Crist ynoch, gobaith y gogoniant.
28
Hwn a gyhoeddwn ni, gan rybuddio pob dyn a dysgu pob dyn ym mhob doethineb fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist;
29
er mwyn hyn hefyd yr ymboenaf gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef a weithreda ynof mewn nerth.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4