bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Colossians 2
Colossians 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Oherwydd ewyllysiaf i chwi wybod cymaint fy ymdrech drosoch a thros y rhai yn Laodicea a’r sawl na welodd fy wyneb yn y cnawd,
2
fel y diddaner eu calonnau, wedi eu cysylltu ynghyd mewn cariad ac i lawnder golud sicrwydd deall, i adnabyddiaeth o ddirgelwch Duw, Crist,
3
y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig ynddo.
4
Hyn a ddywedaf fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hudolus.
5
Canys os wyf absennol yn y corff, yr wyf gyda chwi yn yr ysbryd, gan lawenhau wrth weled eich trefn chwi a sefydlogrwydd eich ffydd yng Nghrist.
6
Gan hynny, megis y derbyniasoch y Crist, Iesu yr Arglwydd, rhodiwch ynddo,
7
wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo, a’ch cadarnhau yn y ffydd fel y’ch dysgwyd, gan fod yn helaeth mewn diolchgarwch.
8
Edrychwch na bo neb yn eich cludo ymaith yn ysbail drwy athroniaeth a gwag dwyll yn ôl traddodiad dynion, yn ôl elfennaidd bethau’r byd, ac nid yn ôl Crist.
9
Canys ynddo ef y preswylia holl gyflawnder y Duwdod,
10
a chwithau a gyflanwyd ynddo ef, y sydd yn ben pob llywodraeth ac awdurdod,
11
y’ch enwaedwyd ynddo hefyd ag enwaediad nid o waith llaw drwy fwrw ymaith gorff y cnawd yn enwaediad Crist,
12
wedi eich claddu gydag ef yn y bedydd, ac y’ch cyd-gyfodwyd ynddo drwy ffydd yng ngweithrediad Duw a’i cyfododd ef o feirw.
13
A chydag ef cydfywhaodd chwithau, a oedd yn feirw drwy gamweddau a dienwaediad eich cnawd, wedi maddau inni yr holl gamweddau
14
a dileu yr hyn a ysgrifennwyd yn yr ordeiniadau yn ein erbyn, y peth a oedd yn wrthwyneb i ni: hyn a ddug ef ymaith gan ei hoelio ar y groes,
15
a chan ddinoethi y llywodraethau a’r awdurdodau arddangosodd hwynt ger bron y byd yn ei orymdaith fuddugoliaethus drwyddi hi.
16
Gan hynny na farned neb chwi mewn bwyta ac mewn yfed neu mewn mater o ŵyl neu newydd-loer neu Saboth;
17
cysgod ydynt hwy o’r pethau sydd i ddyfod, eithr y sylwedd sydd o Grist.
18
Nac ysbeilied neb chwi o’ch gwobr, y sydd a’i fryd ar ostyngeiddrwydd ac addoli angylion, yn ymgywreinio ynglŷn â’r pethau a welodd, yn ofer ymchwyddo drwy ei feddwl cnawdol,
19
a heb ddal gafael yn y Pen, o’r hwn y mae yr holl gorff, gan gael ei gynnal a’i gydgordeddu drwy y cymalau a’r gewynnau, yn cynyddu yng nghynnydd Duw.
20
Os buoch feirw gyda Christ oddi wrth elfennaidd bethau’r byd, paham, fel rhai’n byw yn y byd, yr ymostyngwch i ordeiniadau —
21
na thrin, na archwaetha, na chyffwrdd —
22
y rhai sydd oll i lygredigaeth wrth eu defnyddio, yn ôl gosodiadau ac athrawiaethau dynion?
23
Y mae gan y cyfryw bethau air eu bod yn ddoethineb ar gyfrif defodau hunan-osodedig a gostyngeiddrwydd a thriniaeth ddiarbed corff eithr nid ydynt mewn anrhydedd er llwyr fodloni’r cnawd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4