bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Colossians 3
Colossians 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Gan hynny, os cydgyfodasoch â Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.
2
Rhoddwch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau ar y ddaear.
3
Canys buoch farw, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.
4
Pan amlyger Crist, ein bywyd ni, yna chwithau gydag ef a amlygir mewn gogoniant.
5
Marwhewch gan hynny yr aelodau sydd ar y ddaear, godineb, aflendid, nwyd, chwant drwg, a thrachwant gan mai eilunaddoliaeth yw:
6
o’u plegid y daw digofaint Duw,
7
ac ynddynt y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt.
8
Ond yn awr rhoddwch chwithau hefyd yr holl bethau hyn ymaith o’ch genau, digofaint, llid, drygioni, cabledd, ymadrodd brwnt.
9
Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan i chwi ddiosg yr hen ddyn gyda’i weithredoedd,
10
a gwisgo amdanoch y dyn newydd a adnewyddir i wybodaeth yn ôl delw ei grewr,
11
lle nid oes Roegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth na rhydd, ond Crist yn bob peth ac ym mhob peth.
12
Gan hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch dosturi calon, tiriondeb, gostyngeiddrwydd, addfwynder, hirymaros,
13
gan gydymddwyn â’ch gilydd a maddau i’ch gilydd, o bydd gan un gwyn yn erbyn neb: ac megis y maddeuodd yr Arglwydd i chwi gwnewch chwithau hefyd yr un modd:
14
dros yr holl bethau hyn gwisgwch gariad, sy’n rhwymyn perffeithrwydd.
15
A thangnefedd Crist, y’ch galwyd iddo mewn un corff, a lywodraetho yn eich calonnau chwi; a byddwch ddiolchgar.
16
Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth, gan ddysgu a rhybuddio eich gilydd ym mhob doethineb, yn canu gyda salmau, emynau, ac odlau ysbrydol, mewn diolchgarwch yn eich calonnau i Dduw;
17
a pha beth bynnag a wneloch mewn gair neu weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw Dad drwyddo ef.
18
Chwi wragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr megis y gweddai yn yr Arglwydd.
19
Chwi wŷr, cerwch eich gwragedd ac na fyddwch chwerw wrthynt.
20
Chwi blant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth, canys hyn sydd gymeradwy yn yr Arglwydd.
21
Chwi dadau, na chythruddwch eich plant, fel na ddigalonnont.
22
Chwi weision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd, nid mewn llygad-wasanaeth fel rhai yn boddio dynion, eithr mewn unplygrwydd calon, a chwi yn ofni yr Arglwydd.
23
Pa beth bynnag a wneloch, gwnewch o galon megis i’r Arglwydd ac nid i ddynion,
24
gan wybod mai oddi wrth yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth. Gwasanaethwch yr Arglwydd, Crist.
25
Canys yr hwn a wna anghyfiawnder a dderbyn yr anghyfiawnder yn ôl, ac nid oes derbyn wyneb.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
Recommended Reading
Commentary
Colossians Commentaries
→
Devotional
Colossians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion -45 (T.N., Hosea ac Amos)) Study Bible
→