bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Colossians 4
Colossians 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Chwi feistriaid, rhoddwch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn a thegwch, gan wybod fod gennych chwithau Feistr yn y nefoedd.
2
Dyfalbarhewch mewn gweddi, gan wylio ynddi gyda diolchgarwch,
3
gan weddïo yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor i ni ddrws i’r gair, i lefaru dirgelwch Crist, yr wyf mewn rhwymau o’i blegid,
4
fel yr eglurwyf ef megis y dylwn ei lefaru.
5
Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai oddi allan, gan brynu yr amser.
6
Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, er mwyn i chwi wybod pa fodd y dylech ateb pob rhyw un.
7
Fy holl hynt a hysbysa Tychicus i chwi, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon a’r cyd-was yn yr Arglwydd,
8
a anfonais atoch yn un swydd er mwyn i chwi wybod ein helynt ac iddo gysuro eich calonnau chwi,
9
gydag Onesimus, y brawd ffyddlon ac annwyl, sy’n un ohonoch, chwi. Hysbysant hwy i chwi bob peth sy’n digwydd yma.
10
Y mae Aristarchus, fy nghyd-garcharor, yn eich cyfarch a Marc cefnder Barnabas (y derbyniasoch orchmynion yn ei gylch — os daw atoch, derbyniwch ef),
11
a Jesus a elwir Justus; o’r enwaediad y rhai hyn yn unig sy’n gyd-weithwyr â mi i deyrnas Dduw, a’r sawl a fu’n gysur i mi.
12
Y mae Epaffras, un ohonoch, gwas Crist Iesu, yn eich cyfarch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddïau ar sefyll ohonoch yn berffaith ac wedi eich llawn sicrhau ym mhob peth a ewyllysio Duw.
13
Canys tystiaf amdano fod ganddo fawr ofal drosoch chwi a thros bobl Laodicea a phobl Hierapolis.
14
Y mae Luc, y meddyg annwyl, a Demas, yn eich cyfarch.
15
Cyferchwch y brodyr yn Laodicea, a Nymffa a’r eglwys yn ei thŷ.
16
Ac wedi darllen y llythyr hwn yn eich plith, perwch hefyd ei ddarllen yn eglwys y Laodiceaid, a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea.
17
A dywedwch wrth Archippus, Dyro sylw i’r weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, i’w chyflawni hi.
18
Y mae’r cyfarchiad yn fy llaw fy hun, Paul. Cofiwch, fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4
Recommended Reading
Commentary
Colossians Commentaries
→
Devotional
Colossians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion -45 (T.N., Hosea ac Amos)) Study Bible
→