bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Philippians 1
Philippians 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
1
Paul a Thimotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid:
2
gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
3
Byddaf yn diolch i’m Duw yn fy holl goffa amdanoch,
4
gan ddeisyf gyda llawenydd bob amser ymhob deisyfiad o’r eiddof dros bawb ohonoch
5
am eich cydweithrediad ar ran yr efengyl o’r dydd cyntaf hyd yr awron,
6
gan fod yn ddiogel gennyf y peth hwn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da ei berffeithio hyd ddydd Iesu Grist:
7
megis y mae’n gyfiawn i mi synied hyn am bawb ohonoch am eich bod gennyf yn fy nghalon, gan fod pawb ohonoch yn fy rhwymau yn ogystal ag yn f’amddiffyn o’r efengyl a’i chadarnhad, yn gyd-gyfranogion â mi o ras:
8
canys Duw yw fy nhyst y modd yr hiraethaf am bawb ohonoch yn serchiadau Crist Iesu.
9
A dyma fy ngweddi, ar i’ch cariad ymhelaethu eto’n fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr,
10
fel y dewisoch yn hytrach yr hyn sy’n rhagori, fel y byddoch ddidwyll a didramgwydd erbyn dydd Crist,
11
yn gyflawn o ffrwyth cyfiawnder yr hwn sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl Duw.
12
A mynnwn i chwi wybod, frodyr, i’m helyntion droi’n hytrach er cynnydd yr efengyl,
13
fel y bu i’m rhwymau ddyfod yn hysbys yng Nghrist trwy’r holl bretorium
14
ac i’r rhelyw oll, ac y bu i’r mwyafrif o’r brodyr gan ymddiried yn yr Arglwydd oblegid fy rhwymau fod yn fwy hy o lawer i draethu gair Duw yn ddiofn.
15
Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist hyd yn oed o genfigen a chynnen, a rhai hefyd o ewyllys da;
16
cyhoedda’r naill Grist o gariad, gan wybod fy ngosod er amddiffyn yr efengyl,
17
ond y lleill o uchelgais, nid yn ddilwgr, gan dybied peri blinder i mi yn fy rhwymau.
18
Beth ynteu? Dim ond mai Crist a gyhoeddir ymhob modd, ai mewn rhith ai mewn gwirionedd, ac yn hyn yr wyf yn gorfoleddu, ie, a gorfoleddu a wnaf.
19
Canys gwn y try hyn yn ymwared i mi trwy eich gweddi chwi a chyflenwad ysbryd Iesu Grist,
20
yn ôl f’awyddfryd a’m gobaith na’m gwaradwyddo mewn dim, ond yn hollol ddiofn fel bob amser, felly’r awron hefyd, y mawrheir Crist yn fy nghorff i, ai trwy fyw ai trwy farw.
21
Canys Crist yw byw i mi, ac elw yw marw.
22
Eithr os byw yn y cnawd, os hyn yw ffrwyth fy llafur, yna pa beth a ddewisaf nis gwn.
23
Ond cyfyng yw arnaf o’r ddeutu gan fod arnaf chwant ymado a bod gyda Christ,
24
canys llawer iawn gwell ydyw, eto aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi.
25
A hyn a wn yn sicr yr arhosaf ac y cyd-arhosaf gyda chwi oll er eich cynnydd a’ch gorfoledd yn y ffydd,
26
fel y byddo’n helaethach eich ymffrost yng Nghrist Iesu ynof fi trwy fy nyfod atoch drachefn.
27
Yn unig bydded eich ymarweddiad yn deilwng o efengyl Crist, fel pa un a ddelwyf a’ch gweled ai bod yn absennol y clywyf am eich helynt, sefyll ohonoch mewn un ysbryd gan gyd-ymdrechu ag un enaid dros ffydd yr efengyl,
28
a heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn iddynt hwy sydd arwydd eglur o golledigaeth, eithr o’ch iechydwriaeth chwi, a hynny oddiwrth Dduw;
29
canys i chwi y rhoddwyd er Crist nid yn unig gredu ynddo ond hefyd ddioddef erddo,
30
gan fod i chwi yr un ymdrech ag a welsoch ynof fi ac yr awron a glywch ei bod ynof fi.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4