bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Philippians 3
Philippians 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. I mi’n wir nid yw ysgrifennu’r un pethau’n faich, ac i chwi diogel yw.
2
Gochelwch y cŵn, gochelwch weithredwyr drwg, gochelwch yr hunan-waediad.
3
Canys nyni ydyw’r enwaediad, sy’n addoli trwy Ysbryd Duw, ac yn ymffrostio yng Nghrist Iesu heb ymddiried yn y cnawd,
4
er gallu ohonof fi fy hun ymddiried yn y cnawd. O thyb neb arall y gall ymddiried yn y cnawd, myfi’n fwy felly;
5
wedi f’enwaedu’r wythfed dydd, o hil Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrewr o’r Hebreaid, yn ôl y ddeddf yn Pharisead,
6
yn ôl sêl yn erlid yr eglwys, yn ôl y cyfiawnder sydd o’r ddeddf wedi’m caffael yn ddifeius.
7
Eithr pa bethau bynnag oedd elw i mi, y rhain a gyfrifais yn golled er mwyn Crist.
8
Ie, ymhellach, yr wyf hyd yn oed yn cyfrif popeth yn golled oherwydd rhagoriaeth adnabod Crist Iesu f’Arglwydd, er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhopeth, ac y cyfrifaf hwynt yn dom fel yr enillwyf Grist
9
a’m caffael ynddo ef, nid â chyfiawnder o’m heiddof fy hun sydd o’r ddeddf, eithr hwnnw sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar sail ffydd,
10
er mwyn ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymundeb ei ddioddefaint ef, a’m cydffurfio â’i farwolaeth ef,
11
o chyrhaeddaf mewn un modd yr atgyfodiad sydd o’r meirw.
12
Nid fy mod eisoes wedi caffael nac eisoes wedi’m perffeithio, ond dal rhagof yr wyf o gallwyf gael gafael yn y peth hwnnw y gafaelwyd ynof o’i blegid gan Grist Iesu.
13
Frodyr, nid wyf yn cyfrif fy mod i fy hun eto wedi cael gafael; ond un peth, gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen,
14
yr wyf yn cyrchu at y nod at gamp galw uchel Duw yng Nghrist Iesu.
15
Cynifer gan hynny ohonom ag sy’n berffaith, syniwn hyn; ac os syniwch ddim yn amgen, hyn hefyd a ddatguddia Duw i chwi;
16
un peth, i ba le bynnag y deuthom, daliwn yn yr un llwybr.
17
Byddwch gyd-efelychwyr ohonof fi, frodyr, ac ystyriwch y rhai sy’n rhodio felly megis yr ydym ni gennych yn esiampl.
18
Canys rhodia llawer y dywedais wrthych amdanynt yn fynych, ac y dywedaf yn awr gan wylo, mai gelynion croes Crist ydynt,
19
diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol a’u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sy’n synied pethau daearol.
20
Canys yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddiyno hefyd y disgwyliwn fel Iachawdwr yr Arglwydd Iesu Grist,
21
yr hwn a gyfnewidia gorff ein darostyngiad ni i fod yn unffurf â chorff ei ogoniant ef, yn ôl y gweithrediad y dichon ef trwyddo hyd yn oed ddarostwng pob dim iddo’i hun.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4