bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Philippians 2
Philippians 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Od oes gan hynny ddim apêl yng Nghrist, od oes dim cymhelliad cariad, od oes dim ymgyfranogi o’r Ysbryd, od oes dim tynerwch calon a thosturiaethau,
2
cwblhewch fy llawenydd, fel y byddoch o’r un meddwl, a’r un cariad gennych, yn gytun, o un meddwl,
3
heb wneuthur dim trwy ymbleidio neu trwy wag-ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, pawb yn cyfrif eraill yn amgenach na hwy eu hunain,
4
heb edrych o neb ar yr eiddo’i hun, eithr ar yr eiddo eraill hefyd.
5
Bydded ynoch y meddwl yma a oedd hefyd yng Nghrist Iesu,
6
yr hwn ac yntau yn ffurf Duw ni chyfrifodd yn beth diollwng fod yn ogyfuwch â Duw,
7
ond a’i gwacaodd ei hun, gan gymryd arno ffurf gwas,
8
o’i wneuthur ar lun dynion: ac o’i gaffael yn null dyn ef a’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau’r groes.
9
Oherwydd paham Duw a’i tra-dyrchafodd yntau, a rhoddi iddo’r enw sydd goruwch pob enw,
10
fel yn enw’r Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear,
11
ac y llwyr-gyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.
12
Felly f’anwyliaid, megis y buoch bob amser yn ufudd, nid fel pe yn fy mhresenoldeb yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn f’absenoldeb, gweithiwch allan eich iechydwriaeth eich hunain gydag ofn a dychryn;
13
canys Duw yw’r hwn sy’n gweithio ynoch yn ogystal ewyllysio a gweithio i’w fodlonrwydd ef.
14
Gwnewch bopeth heb rwgnach ac ymddadleu,
15
fel y byddoch ddifeius a diddrwg, yn blant Duw, dinam ynghanol cenhedlaeth wyrgam a throfaus, a chwithau yn eu plith i’ch gweled megis goleuadau yn y byd,
16
gan ddal allan air y bywyd, er ymffrost i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer ac nad ymboenais yn ofer.
17
Ie, ac od ydys yn f’offrymu ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf a chyd-lawenhau â chwi oll;
18
a’r un modd byddwch chwithau hefyd lawen a chyd-lawenhewch â minnau.
19
Eithr gobeithio’r wyf yn yr Arglwydd Iesu anfon Timotheus atoch ar fyrder, fel y’m cysurer innau hefyd o wybod eich helynt chwi.
20
Canys nid oes gennyf neb o’r un ysbryd ag ef, a wir-ofala am eich cyflwr chwi;
21
canys ceisio y maent hwy oll yr eiddynt eu hunain, ac nid yr eiddo Crist Iesu.
22
Eithr gwyddoch fel y profwyd ef, iddo fel mab gyda thad gyd-wasanaethu â mi ar ran yr efengyl.
23
Dyma’r gŵr, gan hynny, yr wyf yn gobeithio ei anfon yn ddioed cyn gynted ag y gwelwyf pa fodd y bydd hi gyda mi;
24
a theimlaf yn sicr yn yr Arglwydd y deuaf finnau hefyd ar fyrder.
25
Eithr tybiais y dylwn anfon atoch Epaphroditus fy mrawd a’m cyd-weithiwr a’m cyd-filwr, a’ch cennad chwi a’ch gweinidog i’m cyfreidiau i,
26
gan ei fod yn hiraethus amdanoch oll ac yn ymofidio oblegid i chwi glywed ei fod yn glaf:
27
canys claf a fu a bron marw; ond trugarhaodd Duw wrtho, ac nid wrtho ef yn unig ond wrthyf finnau hefyd fel na chawn dristwch ar dristwch.
28
Bum felly’n fwy dyfal i’w anfon, fel y byddech lawen, drachefn o’i weled a minnau’n llai fy nhristwch.
29
Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd, ac ystyriwch y cyfryw’n deilwng o anrhydedd,
30
canys er mwyn gwaith Crist bu agos iddo farw trwy beryglu ei fywyd i gyflenwi diffyg eich gwasanaeth tuagataf.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4