bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Philippians 4
Philippians 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
1
Am hynny, fy mrodyr annwyl, yr hiraethaf amdanoch, fy llawenydd a’m coron, sefwch felly yn yr Arglwydd, garedigion.
2
Yr wyf yn annog Euodias ac yn annog Syntyche i synied yr un peth yn yr Arglwydd.
3
Ie, yr wyf yn erfyn arnat tithau hefyd, wir gymar, cymorth hwynt, oherwydd iddynt gydymdrechu â mi yn yr efengyl gyda Chlement a’r rhelyw o’m cydweithwyr sydd a’u henwau yn llyfr y bywyd.
4
Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastad; drachefn meddaf, llawenhewch.
5
Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae’r Arglwydd yn agos.
6
Na phryderwch mewn dim, ond ymhopeth gwneler eich deisyfiadau’n hysbys i Dduw mewn gweddi ac ymbil gyda diolch.
7
A thangnefedd Duw sydd uwchlaw pob deall a werchyd eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
8
Bellach, frodyr, pa bethau bynnag sydd wir, pa bethau bynnag sydd urddasol, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd ddihalog, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd raslawn, od oes dim rhinwedd ac, od oes dim clod, gwnewch gyfrif o’r pethau hyn.
9
Y pethau a ddysgasoch hefyd ac a dderbyniasoch ac a glywsoch ac a welsoch ynof fi, y pethau hyn gwnewch; a Duw’r tangnefedd a fydd gyda chwi.
10
Mi a lawenychais hefyd yn fawr yn yr Arglwydd oherwydd adfywio ohonoch yn awr o’r diwedd eich gofal amdanaf; a buoch yn ofalus yn hyn hefyd, ond bod diffyg cyfle arnoch;
11
nid fy mod yn siarad oherwydd eisiau; canys mi a ddysgais ymha gyflwr bynnag y byddwyf fod ar ben fy nigon ynddo.
12
Gwn pa fodd i ymostwng, gwn hefyd pa fodd i fod mewn helaethrwydd; ymhob dim ac ymhopeth dysgais y dirgelwch pa fodd i fod yn llawn ac yn newynog, a pha fodd i fod mewn helaethrwydd ac mewn prinder.
13
Gallaf bopeth yn yr hwn a’m nertha.
14
Er hynny da y gwnaethoch gydgyfranogi o’m gorthrymder i.
15
Gwyddoch chwi eich hunain hefyd, o Philipiaid, na chyfrannodd yr un eglwys i mi yn nechreu’r efengyl pan euthum allan o Facedonia o ran rhoddi a derbyn ond chwychwi’n unig,
16
oblegid hyd yn oed yn Thesalonica anfonasoch unwaith ac eilwaith wrth f’anghenraid.
17
Nid fy mod yn ceisio’r rhodd, ond ceisio’r wyf y ffrwyth sydd ar gynnydd i’ch cyfrif chwi.
18
Ond derbyniais bopeth, ac y mae gennyf helaethrwydd; cyflawnwyd fi oherwydd caffael ohonof gan Epaphroditus y pethau oddiwrthych chwi, arogl per, aberth cymeradwy, wrth fodd Duw.
19
A’m Duw i a gyflawna eich holl raid yn ôl ei olud mewn gogoniant yng Nghrist Iesu.
20
Yn awr i’n Duw a’n Tad gogoniant yn oes oesoedd; Amen.
21
Cyferchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae’r brodyr sydd gyda mi yn eich cyfarch.
22
Y mae’r saint i gyd yn eich cyfarch, ac yn bennaf y sawl sydd o deulu Cesar.
23
Gras yr Arglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
All chapters:
1
2
3
4