bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Corinthians 13
1 Corinthians 13
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
1
Os dw i'n siarad ieithoedd dieithr neu hyd yn oed iaith angylion, heb gariad dw i'n ddim byd ond jar metel swnllyd neu symbal yn diasbedain.
2
Falle fod gen i'r ddawn i broffwydo, a'r gallu i blymio'r dirgelion dyfnaf — neu'r wybodaeth i esbonio popeth! Falle fod gen i ddigon o ffydd i ‛symud mynyddoedd‛ — ond heb gariad dw i'n dda i ddim.
3
Falle mod i'n fodlon rhannu'r cwbl sydd gen i gyda'r tlodion, neu hyd yn oed yn fodlon marw dros y ffydd — ond heb gariad, dw i'n ennill dim.
4
Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono'i hun.
5
Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nag yn mynnu ei ffordd ei hun drwy'r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae'n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam.
6
Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni — beth sy'n ei wneud e'n llawen ydy'r gwir.
7
Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati.
8
Fydd cariad byth yn chwalu. Bydd proffwydoliaethau'n dod i ben; y tafodau sy'n siarad ieithoedd dieithr yn tewi; a fydd dim angen geiriau o wybodaeth.
9
Wedi'r cwbl, ychydig dŷn ni'n ei wybod a dydy'n proffwydo ni ddim yn dweud popeth chwaith.
10
Pan fydd beth sy'n gyflawn ac yn berffaith yn dod yn derfynol, bydd y doniau sydd ond yn rhoi rhyw gipolwg bach i ni yn cael eu hysgubo o'r neilltu.
11
Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn i'n siarad iaith plentyn, yn meddwl fel plentyn, a deall plentyn oedd gen i. Ond ers i mi dyfu'n oedolyn dw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn.
12
A dyna sut mae hi — dŷn ni ond yn gweld adlewyrchiad ar hyn o bryd (fel edrych mewn drych metel); ond byddwn yn dod wyneb yn wyneb maes o law. Ychydig iawn dŷn ni'n ei wybod ar hyn o bryd; ond bydda i'n cael gwybod y cwbl bryd hynny, yn union fel y mae Duw yn gwybod y cwbl amdana i.
13
Ar hyn o bryd mae gynnoch chi dri peth sy'n aros: ffydd, gobaith a chariad. Ond y mwya ohonyn nhw ydy cariad.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16