bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Corinthians 16
1 Corinthians 16
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
I droi at yr arian sy'n cael ei gasglu i helpu pobl Dduw: Gwnewch beth ddwedais i wrth eglwysi Galatia i'w wneud.
2
Bob dydd Sul dylai pob un ohonoch chi roi arian o'r neilltu, faint bynnag mae'ch incwm chi'n ei ganiatáu, fel bydd dim rhaid casglu'r cwbl gyda'i gilydd pan ddof i acw.
3
Wedyn, pan gyrhaedda i bydda i'n ysgrifennu llythyrau yn awdurdodi'r rhai fyddwch chi'n eu dewis i fynd â'ch rhodd i Jerwsalem.
4
Ac os dych chi'n meddwl y byddai'n beth da i mi fynd, gallan nhw fynd gyda mi.
5
Dw i'n bwriadu mynd i dalaith Macedonia gyntaf, a bydda i'n dod i'ch gweld chi ar ôl hynny.
6
Falle yr arhosa i gyda chi am dipyn — hyd yn oed dreulio'r gaeaf acw. Wedyn gallwch fy helpu i fynd ymlaen ar fy nhaith.
7
Petawn i'n dod yn syth fyddwn i ond yn gallu taro heibio, a does gen i ddim eisiau gwneud hynny. Dw i eisiau aros gyda chi am dipyn, os Duw a'i myn.
8
Dw i'n mynd i aros yn Effesus tan y Pentecost,
9
am fod cyfle i wneud gwaith mawr wedi codi yma, er bod digon o wrthwynebiad.
10
Pan ddaw Timotheus atoch chi, gwnewch yn siŵr fod ganddo ddim i boeni amdano tra bydd gyda chi. Mae e, fel fi, yn gwneud gwaith Duw.
11
Felly ddylai neb ac edrych i lawr arno. A rhowch help ymarferol iddo ar ei daith yn ôl ata i. Dw i'n edrych ymlaen at ei weld e a'r brodyr eraill.
12
Ynglŷn â'n brawd Apolos: Gwnes i bwyso arno i ddod atoch chi gyda'r lleill, ond roedd e'n benderfynol o beidio ar hyn o bryd. Ond bydd yn dod pan ddaw cyfle!
13
Gwyliwch eich hunain. Daliwch i gredu. Byddwch yn ddewr. Byddwch yn gryf.
14
Gwnewch bopeth mewn cariad.
15
Gwyddoch mai'r rhai o dŷ Steffanas oedd y bobl gyntaf yn nhalaith Achaia i ddod i gredu, ac maen nhw wedi rhoi eu hunain yn llwyr i helpu eu cyd-Gristnogion. Dw i'n eich annog chi, frodyr a chwiorydd,
16
i barchu pobl fel nhw, a phawb arall tebyg sydd wedi rhoi eu hunain yn llwyr i'r gwaith.
17
Roeddwn i mor falch pan gyrhaeddodd Steffanas, Ffortwnatus ac Achaicus ar eich rhan chi.
18
Maen nhw wedi codi nghalon i, fel maen nhw wedi gwneud i chi hefyd. Mae'n bwysig cydnabod rhai fel nhw.
19
Mae'r eglwysi yma yn nhalaith Asia yn anfon eu cyfarchion atoch chi. Mae Acwila a Priscila yn cofio atoch chi'n frwd yn yr Arglwydd, a'r eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw.
20
Yn wir, mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn anfon eu cyfarchion. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad.
21
Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun — PAUL.
22
Os ydy rhywun ddim yn caru'r Arglwydd, mae dan felltith! O, tyrd Arglwydd!
23
Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu.
24
Fy nghariad atoch chi i gyd sy'n perthyn i'r Meseia Iesu. Amen.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16