bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Corinthians 5
1 Corinthians 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
1
Dw i wedi clywed am yr anfoesoldeb yn eich plith chi! Mae'n waeth na beth fyddai'r paganiaid yn ei oddef! Mae un o ddynion yr eglwys yn cysgu gyda'i lysfam, gwraig ei dad!
2
A dych chi'n dal yn falch ohonoch chi'ch hunain? Dylai'r fath beth godi cywilydd arnoch chi! Dylech chi fod wedi'ch llethu gan alar! Pam dych chi ddim wedi disgyblu'r dyn, a'i droi allan o gymdeithas yr eglwys?
3
Er fy mod i ddim gyda chi yn Corinth ar hyn o bryd, dw i acw yn yr ysbryd. Yn union fel petawn i gyda chi dw i wedi cyhoeddi'r ddedfryd
4
gydag awdurdod ein Harglwydd Iesu. Pan ddowch chi at eich gilydd (bydda i yno gyda chi yn yr ysbryd),
5
taflwch y dyn allan o'r eglwys. Rhaid ei roi yn nwylo Satan, er mwyn i'w chwantau drwg gael eu dinistrio ac iddo gael ei achub pan ddaw'r Arglwydd Iesu yn ôl.
6
Sut allwch chi ymfalchïo fel eglwys pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod “mymryn bach o furum yn lledu drwy'r toes i gyd”? — mae'n effeithio ar bawb!
7
Rhaid cael gwared ohono — ei daflu allan, a dechrau o'r newydd gyda thoes newydd heb unrhyw furum ynddo. Ac felly dylech chi fod, am fod y Meseia wedi ei aberthu droson ni, fel oen y Pasg.
8
Gadewch i ni ddathlu'r Ŵyl, dim gyda'r bara sy'n llawn o furum malais a drygioni, ond gyda bara croyw purdeb a gwirionedd.
9
Dw i wedi dweud wrthoch chi yn y llythyr ysgrifennais i o'r blaen i beidio cael dim i'w wneud gyda phobl sy'n anfoesol yn rhywiol.
10
Dim sôn am bobl sydd ddim yn credu oeddwn i — sef y bobl yn y gymdeithas seciwlar sy'n anfoesol neu'n hunanol, neu'n twyllo, neu'n addoli eilun-dduwiau. Byddai'n rhaid i chi fynd allan o'r byd i osgoi pobl felly!
11
Na, beth roeddwn i'n ei olygu oedd na ddylech chi gael dim i'w wneud â rhywun sy'n galw ei hun yn Gristion ac eto ar yr un pryd yn byw'n anfoesol, neu'n hunanol, yn addoli eilun-dduwiau, yn sarhaus, yn meddwi neu'n twyllo. Peidiwch hyd yn oed ag eistedd i gael pryd o fwyd gyda phobl felly!
12
Dim fy lle i ydy barnu pobl y tu allan i'r eglwys. Ond dŷn ni yn gyfrifol am y bobl sy'n perthyn i'r eglwys.
13
Duw sydd yn barnu pobl o'r tu allan. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud wrthon ni, “Rhaid diarddel y dyn drwg o'ch plith.”
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16