bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Corinthians 8
1 Corinthians 8
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
1
I droi at eich cwestiwn am gig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau paganaidd: “Mae pawb yn gwybod y ffeithiau ac yn gallu dewis drostyn nhw eu hunain” meddech chi. Ond mae dweud ein bod ni'n gwybod yn hybu balchder; mae cariad, ar y llaw arall, yn adeiladu.
2
Os ydy rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod y cwbl, dŷn nhw'n gwybod dim byd mewn gwirionedd.
3
Ond mae Duw yn gwybod pwy sy'n ei garu, ac mae'n gofalu amdanyn nhw.
4
Felly, ydy hi'n iawn i ni fwyta cig sydd wedi ei aberthu i dduwiau paganaidd? Dŷn ni'n cytuno — “Dydy eilun yn ddim byd mewn gwirionedd. Does dim ond un Duw go iawn.”
5
Hyd yn oed os oes rhai sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ yn y nefoedd ac ar y ddaear (ac oes, mae gan bobl lawer o ‛dduwiau‛ ac ‛arglwyddi‛ eraill),
6
dŷn ni'n gwybod mai dim ond un Duw go iawn sydd, sef y Tad. Fe ydy'r un greodd bopeth ac iddo fe dŷn ni'n byw. A does gynnon ni ond un Arglwydd, sef Iesu y Meseia, yr un y daeth popeth i fod trwyddo, a'r un sy'n rhoi bywyd i ni.
7
Ond dydy pawb ddim mor siŵr. Mae eilun-dduwiau wedi bod yn gymaint rhan o fywydau rhai pobl, pan maen nhw'n bwyta'r cig allan nhw ddim peidio meddwl am y ffaith ei fod wedi ei aberthu i ryw dduw paganaidd. Mae eu cydwybod nhw'n cael ei niweidio am ei bod hi'n gydwybod wan.
8
“Dydy bwyd ddim yn effeithio ar ein perthynas ni â Duw” meddech chi; digon gwir — dŷn ni ddim gwaeth o fwyta, na dim gwell chwaith.
9
Ond dylech chi fod yn ofalus nad ydych chi a'ch “hawl i ddewis” yn achosi i'r rhai sy'n ansicr faglu.
10
Dyma allai ddigwydd: Mae rhywun sydd â chydwybod wan yn dy weld di yn bwyta mewn teml eilunod. Rwyt ti'n gwybod y ffeithiau — does dim i boeni amdano. Ond onid oes peryg wedyn i'r person welodd di deimlo'n hyderus, a bwyta cig sydd wedi ei aberthu i eilun-dduwiau?
11
Felly bydd y crediniwr sy'n ansicr yn gweithredu'n groes i'w gydwybod ac yn cael ei ddinistrio am dy fod di'n “gwybod yn well” — ie, brawd neu chwaer y buodd y Meseia farw trostyn nhw!
12
Wrth wneud i Gristion arall weithredu'n groes i'w gydwybod fel hyn, rwyt ti'n pechu yn erbyn y Meseia.
13
Felly, os ydy beth dw i'n ei fwyta yn achosi i Gristion arall faglu, wna i byth fwyta cig eto — does gen i ddim eisiau achosi iddyn nhw syrthio.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16