bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Kings 10
1 Kings 10
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 11 →
1
Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon, a'r clod roedd yn ei roi i'r ARGLWYDD. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd.
2
Cyrhaeddodd Jerwsalem gyda'i gwarchodlu yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario perlysiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl.
3
Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi.
4
[4-5] Roedd brenhines Sheba wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi ei adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml.
6
A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir — yr holl bethau rwyt ti wedi eu cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti.
7
Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb a dy gyfoeth di'n fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i.
8
Mae'r bobl yma wedi eu bendithio'n fawr — y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di.
9
Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i eistedd ar orsedd Israel! Mae wedi dy wneud di yn frenin am ei fod yn caru Israel, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.”
10
A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o sbeisiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau a'r hyn roedd brenhines Sheba wedi ei roi i'r Brenin Solomon.
11
(Hefyd roedd llongau Hiram, oedd yn cario aur o Offir, wedi dod â llwythi lawer o goed arbennig, sef pren Almug, a gemau gwerthfawr.
12
Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a palas y brenin o'r pren Almug, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Does neb wedi gweld cymaint o bren Almug ers hynny!)
13
Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn rhoi i frenhines Sheba bopeth roedd hi'n gofyn amdano. Roedd hyn ar ben y cwbl roedd e wedi ei roi iddi o'i haelioni ei hun. Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.
14
Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn,
15
heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr, y farchnad sbeis, brenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau.
16
Dyma Solomon yn gwneud dau gant o darianau mawr o aur wedi ei guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian!
17
Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron ddau cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus.
18
Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi ei gorchuddio gydag aur coeth.
19
Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd pen llo ar gefn yr orsedd a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau ar y ddwy ochr.
20
Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi!
21
Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi eu gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi ei wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny.
22
Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr yn hwylio'r môr gyda llongau Hiram. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod.
23
Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nac unrhyw frenin arall yn unman.
24
Ac roedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y ddoethineb roedd yr ARGLWYDD wedi ei roi iddo.
25
Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod.
26
Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem.
27
Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir.
28
Roedd ceffylau Solomon wedi eu mewnforio o'r Aifft a Cwe. Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe.
29
Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a cant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22