bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Kings 3
1 Kings 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 4 →
1
Dyma Solomon yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r Pharo, brenin yr Aifft, trwy briodi ei ferch. Daeth â hi i fyw i ddinas Dafydd tra roedd yn gorffen adeiladu palas iddo'i hun, teml i'r ARGLWYDD a'r waliau o gwmpas Jerwsalem.
2
Yr adeg yna, roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid ar allorau lleol am nad oedd teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD wedi ei hadeiladu eto.
3
Roedd Solomon yn caru'r ARGLWYDD ac yn dilyn yr un polisïau â'i dad, Dafydd. Er, roedd e hefyd yn aberthu anifeiliaid ac yn llosgi arogldarth wrth yr allorau lleol.
4
Byddai'n mynd i Gibeon, am mai'r allor leol yno oedd yr un bwysicaf. Aberthodd fil o anifeiliaid yno, yn offrymau i'w llosgi'n llwyr.
5
Yna un noson pan oedd yn Gibeon dyma Solomon yn cael breuddwyd. Gwelodd yr ARGLWYDD yn dod ato a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?”
6
Atebodd Solomon, “Roeddet ti'n garedig iawn at Dafydd fy nhad wrth iddo fyw yn ffyddlon i ti, yn gywir ac yn onest. Ac rwyt ti wedi dal ati i fod yn arbennig o garedig drwy adael i mi, ei fab, fod yn frenin yn ei le.
7
A nawr, ARGLWYDD, fy Nuw, ti wedi fy ngwneud i yn frenin yn lle fy nhad Dafydd. Ond dyn ifanc dibrofiad ydw i,
8
a dyma fi yng nghanol y bobl rwyt ti wedi eu dewis. Mae yna gymaint ohonyn nhw mae'n amhosibl eu cyfrif nhw i gyd!
9
Rho i mi'r gallu i wrando a deall, er mwyn i mi lywodraethu dy bobl di'n iawn, a gallu dweud y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?”
10
Roedd ateb Solomon a'r hyn roedd wedi gofyn amdano yn plesio yr ARGLWYDD yn fawr.
11
A dyma Duw'n dweud wrtho, “Am mai dyna rwyt ti wedi gofyn amdano — y gallu i lywodraethu yn ddoeth — a dy fod ti ddim wedi gofyn am gael byw yn hir, neu am gyfoeth mawr, neu i dy elynion gael eu lladd,
12
dw i'n mynd roi'r hyn rwyt ti eisiau i ti. Dw i'n mynd i dy wneud di'n fwy doeth a deallus nag unrhyw un ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl.
13
Ond dw i hefyd yn mynd i roi i ti beth wnest ti ddim gofyn amdano, cyfoeth ac anrhydedd. Fydd yna ddim brenin tebyg i ti tra byddi byw.
14
Ac os byddi di'n byw yn ufudd i mi ac yn cadw fy rheolau i fel roedd dy dad Dafydd yn gwneud, bydda i'n rhoi oes hir i ti.”
15
Yna dyma Solomon yn deffro a sylweddoli ei fod wedi bod yn breuddwydio. Dyma fe'n mynd i Jerwsalem a sefyll o flaen Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD. Cyflwynodd offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, a cynnal gwledd i'w swyddogion i gyd.
16
Yn fuan wedyn, dyma ddwy ferch yn mynd at y brenin. Roedden nhw'n buteiniaid.
17
Dyma un o'r merched yn dweud, “Syr, dw i a'r ferch yma yn byw yn yr un tŷ. Ces i fabi tra roedden ni gyda'n gilydd yn y tŷ.
18
Yna dridiau wedyn dyma hithau'n cael babi. Doedd yna neb arall yn y tŷ, dim ond ni'n dwy.
19
Un noson dyma ei mab hi'n marw; roedd hi wedi gorwedd arno.
20
Cododd yn y nos a chymryd fy mab i oedd wrth fy ymyl tra roeddwn i'n cysgu. Cymrodd fy mab i i'w chôl a rhoi ei phlentyn marw hi yn fy mreichiau i.
21
Pan wnes i ddeffro yn y bore i fwydo'r babi, roedd e wedi marw. Ond wrth edrych yn fanwl, dyma fi'n sylweddoli mai nid fy mab i oedd e.”
22
Yna dyma'r ferch arall yn dweud, “Na! Fy mab i ydy'r un byw. Dy fab di sydd wedi marw.” A dyma'r gyntaf yn ateb “Nage, yr un marw ydy dy fab di. Fy mab i ydy'r un byw.” Roedd y ddwy ohonyn nhw'n dadlau â'i gilydd fel hyn o flaen y brenin.
23
Yna dyma'r brenin yn dweud, “Mae un ohonoch chi'n dweud, ‘Fy mab i ydy hwn; mae dy fab di wedi marw’, a'r llall yn dweud, ‘Na! Dy fab di sydd wedi marw; fy mab i ydy'r un byw.’”
24
Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i'w weision, “Dewch â chleddyf i mi.” A dyma nhw'n dod ag un iddo.
25
Wedyn dyma'r brenin yn dweud, “Torrwch y plentyn byw yn ei hanner, a rhowch hanner bob un iddyn nhw.”
26
Ond dyma fam y plentyn byw yn ymateb (achos roedd hi'n torri ei chalon wrth feddwl am y plentyn yn cael ei ladd). Dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Syr, rho'r plentyn byw iddi hi. Da chi paid â'i ladd e.” Ond roedd y llall yn dweud, “Os nad ydw i'n ei gael e, gei di mohono chwaith — rhannwch e!”
27
A dyma'r brenin yn dweud, “Rhowch y plentyn byw i'r wraig gyntaf. Peidiwch ei ladd e. Hi ydy'r fam.”
28
Pan glywodd pobl Israel am y ffordd roedd y brenin wedi setlo'r achos, roedden nhw'n rhyfeddu. Roedden nhw'n gweld fod Duw wedi rhoi doethineb anghyffredin iddo allu barnu fel yma.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22