bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Kings 5
1 Kings 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 6 →
1
Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn clywed fod Solomon wedi cael ei wneud yn frenin yn lle ei dad. A dyma fe'n anfon llysgenhadon i'w longyfarch, achos roedd Hiram wedi bod yn ffrindiau da gyda Dafydd ar hyd ei oes.
2
Felly dyma Solomon yn anfon neges yn ôl ato,
3
“Ti'n gwybod fod fy nhad, Dafydd, ddim wedi gallu adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD ei Dduw. Roedd cymaint o ryfeloedd i'w hymladd cyn i'r ARGLWYDD ei helpu i goncro ei elynion i gyd.
4
Ond bellach, diolch i'r ARGLWYDD Dduw, mae gynnon ni heddwch llwyr. Does dim un gelyn yn ymosod arnon ni nac yn ein bygwth ni.
5
Felly dw i am adeiladu teml i'r ARGLWYDD fy Nuw. Roedd e wedi dweud wrth Dafydd, fy nhad, ‘Dy fab di, yr un fydd yn frenin ar dy ôl di, fydd yn adeiladu teml i mi.’
6
Felly, rho orchymyn i dorri coed cedrwydd o Libanus i mi. Gall y gweithwyr sydd gen i weithio gyda dy weithwyr di. Gwna i dalu iddyn nhw beth bynnag rwyt ti'n ddweud. Ti'n gwybod yn iawn nad oes gynnon ni neb sy'n gallu trin coed fel pobl Sidon.”
7
Roedd Hiram yn hapus iawn pan gafodd neges Solomon. A dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD heddiw, am iddo roi mab mor ddoeth i Dafydd i fod yn frenin ar y genedl fawr yna.”
8
A dyma Hiram yn anfon neges yn ôl at Solomon, yn dweud, “Dw i wedi cael dy neges di. Cei faint bynnag wyt ti eisiau o goed cedrwydd a coed pinwydd.
9
Gwnaiff fy ngweision i ddod â nhw i lawr o Libanus at y môr. Yno byddan nhw'n eu gwneud yn rafftiau, a mynd â nhw i ble bynnag wyt ti'n ddweud. Wedyn byddwn ni'n eu dadlwytho, a caiff dy weision di eu cymryd nhw. Cei di dalu drwy gyflenwi'r bwyd sydd ei angen ar fy llys brenhinol i.”
10
Felly, dyma Hiram yn rhoi i Solomon yr holl goed cedrwydd a choed pinwydd oedd e eisiau.
11
Roedd Solomon yn rhoi dau ddeg mil o fesurau o wenith a cant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd pur i Hiram bob blwyddyn.
12
Felly, roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi doethineb i Solomon, fel gwnaeth e addo. A dyma Hiram a Solomon yn gwneud cytundeb heddwch.
13
Dyma Solomon yn casglu tri deg mil o ddynion o bob rhan o Israel, a'u gorfodi i weithio iddo yn ddigyflog.
14
Roedd yn eu gyrru nhw i Libanus bob yn ddeg mil. Roedden nhw'n gweithio yn Libanus am fis ac yna'n cael dau fis gartref. Adoniram oedd y swyddog oedd yn gyfrifol am y gweithlu gorfodol.
15
Yn ogystal â'r rhain roedd gan Solomon saith deg mil o labrwyr ac wyth deg mil o chwarelwyr yn y bryniau,
16
heb sôn am y tair mil tri chant o fformyn oedd yn arolygu'r gweithwyr.
17
Roedd y brenin wedi gorchymyn iddyn nhw ddod â cherrig anferth, costus wedi eu naddu'n barod i adeiladu sylfeini'r deml.
18
Roedd dynion o Gebal yn helpu adeiladwyr Solomon a Hiram i naddu'r cerrig a paratoi'r coed ar gyfer adeiladu'r deml.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22