bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Kings 17
1 Kings 17
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 18 →
1
Dyma Elias, o Tishbe yn Gilead, yn dweud wrth Ahab, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn fyw (y Duw dw i'n ei addoli), fydd yna ddim gwlith na glaw y blynyddoedd nesaf yma nes i mi ddweud yn wahanol.”
2
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho,
3
“Dos i ffwrdd i'r dwyrain. Dos i guddio wrth ymyl Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.
4
Cei ddŵr i'w yfed o'r nant, a dw i wedi dweud wrth y cigfrain am ddod â bwyd i ti yno.”
5
Dyma Elias yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, a mynd i fyw wrth Nant Cerith yr ochr arall i'r Afon Iorddonen.
6
Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda'r nos, ac roedd yn yfed dŵr o'r nant.
7
Ond ar ôl peth amser dyma'r nant yn sychu am ei bod hi heb fwrw glaw yn y wlad o gwbl.
8
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho,
9
“Cod, a dos i fyw i Sareffath yn ardal Sidon. Dw i wedi dweud wrth wraig weddw sy'n byw yno i roi bwyd i ti.”
10
Felly dyma Elias yn mynd i Sareffath. Pan gyrhaeddodd giatiau'r dref gwelodd wraig weddw yn casglu coed tân. Dyma fe'n galw arni, “Plîs wnei di roi ychydig o ddŵr i mi i'w yfed.”
11
Wrth iddi fynd i nôl peth dyma fe'n galw ar ei hôl, “Wnei di ddod â rhywbeth bach i mi i'w fwyta hefyd?”
12
Ond dyma hi'n ateb, “Wir i ti, mor sicr â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, does gen i ddim byd. Llond dwrn o flawd mewn potyn ac ychydig o olew olewydd mewn jwg sydd gen i ar ôl. Roeddwn i wrthi'n casglu ychydig o goed tân i wneud un pryd bwyd olaf i mi a'm mab. Ar ôl i ni fwyta hwnnw byddwn ni'n llwgu.”
13
Ond dyma Elias yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dos i wneud hynny. Ond gwna fymryn o fara i mi gyntaf, a tyrd ag e allan yma. Cei baratoi rhywbeth i ti a dy fab wedyn.
14
Achos dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Ddaw'r blawd yn y potyn ddim i ben, a fydd yr olew yn y jar ddim yn darfod nes bydd yr ARGLWYDD wedi anfon glaw unwaith eto.”
15
Felly dyma hi'n mynd a gwneud fel roedd Elias wedi dweud wrthi. Ac roedd digon o fwyd bob dydd i Elias ac iddi hi a'i theulu.
16
Ddaeth y blawd yn y potyn ddim i ben, a wnaeth yr olew yn y jar ddim darfod, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo trwy Elias.
17
Beth amser wedyn dyma fab y wraig oedd biau'r tŷ yn cael ei daro'n wael. Aeth o ddrwg i waeth, nes yn y diwedd iddo stopio anadlu.
18
A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Pa ddrwg dw i wedi ei wneud i ti, broffwyd Duw? Wyt ti wedi dod yma i'm cosbi i am fy mhechod a lladd fy mab?”
19
Dyma Elias yn ateb, “Rho dy fab i mi.” A dyma fe'n cymryd y bachgen o'i breichiau, a'i gario i fyny i'r llofft lle roedd yn aros, a'i roi i orwedd ar y gwely.
20
Yna dyma fe'n galw ar yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD fy Nuw, wyt ti wir am wneud drwg i'r weddw yma sydd wedi rhoi llety i mi, drwy ladd ei mab hi?”
21
A dyma fe'n ymestyn ei hun dros y bachgen dair gwaith, a galw ar yr ARGLWYDD: “O ARGLWYDD, fy Nuw, plîs tyrd â'r bachgen yma yn ôl yn fyw!”
22
A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Elias, a dyma'r bachgen yn dechrau anadlu eto. Roedd yn fyw!
23
Dyma Elias yn codi'r bachgen a mynd ag e i lawr y grisiau yn ôl i'w fam, a dweud wrthi, “Edrych, mae dy fab yn fyw!”
24
A dyma'r wraig yn dweud wrth Elias, “Nawr dw i'n gwybod dy fod ti'n broffwyd go iawn, a bod yr ARGLWYDD wir yn siarad trwot ti.”
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22