bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Samuel 12
1 Samuel 12
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 13 →
1
Dyma Samuel yn dweud wrth bobl Israel: “Edrychwch, dw i wedi gwneud popeth dych chi wedi ei ofyn, ac wedi rhoi brenin i chi.
2
O hyn ymlaen, y brenin fydd yn eich arwain chi. Dw i'n hen ŵr a'm gwallt yn wyn, ac mae fy meibion i gynnoch chi. Dw i wedi eich arwain chi ers pan oeddwn i yn ifanc.
3
Dyma fi. Dewch, cyhuddwch fi o flaen yr ARGLWYDD a'r un mae e wedi ei eneinio'n frenin. Ydw i wedi cymryd ychen rhywun? Ydw i wedi cymryd asyn rhywun? Ydw i wedi twyllo unrhyw un? Ydw i wedi gwneud i unrhyw un ddioddef? Ydw i wedi derbyn breib gan unrhyw un i gau fy llygaid i ryw ddrwg? Dwedwch wrtho i. Gwna i dalu'r cwbl yn ôl.”
4
Ond dyma nhw'n ateb, “Na, dwyt ti ddim wedi'n twyllo ni, na gwneud i ni ddioddef, na chymryd dim gan unrhyw un.”
5
Yna dyma Samuel yn dweud, “Mae ARGLWYDD yn dyst heddiw, a'r brenin ddewisodd e, eich bod chi wedi cael hyd i ddim byd o gwbl yn fy erbyn i.” “Ydy, mae e'n dyst,” medden nhw.
6
Yna dyma Samuel yn mynd ymlaen i ddweud wrth y bobl. “Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis Moses ac Aaron, ac arwain eich hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft.
7
Safwch mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD i mi gael rhoi siars i chi. Mae'r ARGLWYDD wedi bod mor deg bob amser yn y ffordd mae wedi eich trin chi a'ch hynafiaid.
8
Aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Ond ar ôl hynny dyma'ch hynafiaid yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod yr Eifftiaid yn eu cam-drin nhw. Anfonodd yr ARGLWYDD Moses ac Aaron i'w harwain nhw allan o'r Aifft i'r lle yma.
9
Ond dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw. Felly dyma Duw yn gadael i Sisera, capten byddin Chatsor, a'r Philistiaid, a brenin Moab eu cam-drin nhw. Daeth y rhain i ryfela yn eu herbyn nhw.
10
Felly dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD eto, a dweud: ‘Ein bai ni ydy hyn. Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti ARGLWYDD ac wedi mynd i addoli eilunod Baal a delwau o'r dduwies Ashtart. Plîs achub ni nawr o afael ein gelynion a byddwn ni'n dy addoli di.’
11
Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon Gideon, Barac, Jefftha a fi, Samuel, i'ch achub chi oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, fel eich bod chi'n saff.
12
“Ond pan welsoch chi fod Nachash, brenin Ammon, yn mynd i ymosod arnoch chi, dyma chi'n dweud wrtho i, ‘Na! Dŷn ni eisiau brenin’ — pan oedd yr ARGLWYDD eich Duw i fod yn frenin arnoch chi!
13
Felly dyma chi! Dyma'r brenin dych chi wedi ei ddewis, yr un wnaethoch chi ofyn amdano! Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chi!
14
“Os gwnewch chi barchu'r ARGLWYDD a'i addoli e, gwrando arno a pheidio gwrthryfela yn ei erbyn, ac os gwnewch chi a'ch brenin ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, bydd popeth yn iawn.
15
Ond os wnewch chi ddim gwrando, a gwrthod bod yn ufudd, yna bydd yr ARGLWYDD yn eich cosbi chi a'r brenin.
16
“Nawr, safwch yma i weld rhywbeth anhygoel mae'r ARGLWYDD yn mynd i'w wneud o flaen eich llygaid chi.
17
Y tymor sych ydy hi ynte? Dw i'n mynd i weddïo ar Dduw, a gofyn iddo anfon glaw a tharanau! Byddwch chi'n sylweddoli wedyn peth mor ddrwg yng ngolwg Duw oedd gofyn am frenin.”
18
Yna dyma Samuel yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. A'r diwrnod hwnnw dyma'r ARGLWYDDyn anfon glaw a tharanau. Felly roedd gan y bobl i gyd ofn yr ARGLWYDD a Samuel.
19
Ac medden nhw wrtho, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw droson ni, rhag i ni farw. Dŷn ni wedi gwneud mwy fyth o ddrwg drwy ofyn am frenin.”
20
Dyma Samuel yn ateb y bobl, “Peidiwch bod ofn, er bod chi wedi gwneud yr holl bethau drwg yma. Peidiwch troi cefn ar yr ARGLWYDD. Addolwch e â'ch holl galon.
21
Peidiwch â'i adael a mynd ar ôl rhyw ddelwau diwerth. All y rheiny ddim helpu nac achub neb. Dŷn nhw'n dda i ddim!
22
Yr ARGLWYDD wnaeth ddewis eich gwneud chi'n bobl iddo fe'i hun, felly fydd e ddim yn troi cefn arnoch chi. Mae e eisiau cadw ei enw da.
23
Ac o'm rhan i fy hun, fyddwn i byth yn meiddio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy beidio gweddïo drosoch chi. Bydda i'n eich dysgu chi i fyw yn y ffordd iawn:
24
Cofiwch barchu'r ARGLWYDD, a'i addoli o ddifri â'ch holl galon. Meddyliwch am yr holl bethau mawr mae'r ARGLWYDD wedi eu gwneud i chi!
25
Ond os byddwch chi'n dal ati i wneud drwg, bydd hi ar ben arnoch chi a'ch brenin.”
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31