bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Samuel 31
1 Samuel 31
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
1
Dyma'r Philistiaid yn dod i ryfela yn erbyn Israel. Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi o flaen y Philistiaid a syrthiodd llawer ohonyn nhw'n farw ar fynydd Gilboa.
2
Roedd y Philistiaid reit tu ôl i Saul a'i feibion, a dyma nhw'n llwyddo i ladd ei feibion, Jonathan, Abinadab a Malci-shwa.
3
Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma'r bwasaethwyr yn ei daro'n ddifrifol a'i anafu'n ddrwg.
4
Yna dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i'r paganiaid yma ddod i'm cam-drin i a'm lladd i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny. Felly dyma Saul yn cymryd y cleddyf ac yn syrthio arno.
5
Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw gydag e.
6
Felly cafodd Saul a tri o'i feibion, y gwas oedd yn cario ei arfau a'i filwyr i gyd eu lladd y diwrnod hwnnw.
7
Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn, a'r tu draw i'r Iorddonen, yn clywed fod milwyr Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi. A dyma'r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw.
8
Y diwrnod ar ôl y frwydr dyma'r Philistiaid yn dod i ddwyn oddi ar y cyrff meirw. A dyma nhw'n dod o hyd i Saul a'i dri mab yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa.
9
Dyma nhw'n torri pen Saul i ffwrdd a chymryd ei arfau, ac anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi'r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl.
10
Wedyn dyma nhw'n rhoi arfau Saul yn nheml y dduwies Ashtart, ac yn crogi ei gorff ar waliau Beth-shan.
11
Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead beth roedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul,
12
dyma'r milwyr i gyd yn mynd allan a teithio drwy'r nos. Dyma nhw'n cymryd cyrff Saul a'i feibion oddi ar waliau Beth-shan, mynd â nhw i Jabesh a'u llosgi yno.
13
Wedyn dyma nhw'n cymryd yr esgyrn a'u claddu o dan y goeden tamarisg yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31