bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Samuel 3
1 Samuel 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 4 →
1
[1-2] Roedd y bachgen Samuel yn dal i wasanaethu'r ARGLWYDD gydag Eli, oedd erbyn hynny wedi dechrau colli ei olwg ac yn mynd yn ddall. Yr adeg yna doedd pobl ddim yn cael neges gan Dduw yn aml, nac yn cael gweledigaethau. Ond digwyddodd rhywbeth un noson, tra roedd Eli'n cysgu yn ei ystafell.
3
Doedd lamp Duw ddim wedi diffodd, ac roedd Samuel hefyd yn cysgu yn y deml lle roedd Arch Duw.
4
Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel, a dyma Samuel yn ateb, “Dyma fi,”
5
yna rhedeg at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti alw.” Ond dyma Eli'n ateb, “Naddo, wnes i ddim dy alw di, dos yn ôl i gysgu.” Felly aeth Samuel yn ôl i orwedd.
6
Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel eto. Cododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti ngalw i.” “Naddo, machgen i,” meddai Eli, “wnes i ddim dy alw di. Dos yn ôl i gysgu.”
7
(Roedd hyn i gyd cyn i Samuel ddod i nabod yr ARGLWYDD. Doedd e erioed wedi cael neges gan Dduw o'r blaen.)
8
Galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel y trydydd tro; a dyma Samuel yn mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti fy ngalw i.” Dyna pryd sylweddolodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.
9
A dwedodd wrtho, “Dos yn ôl i gysgu. Pan fydd e'n dy alw di eto, ateb fel yma: ‘Siarada ARGLWYDD, mae dy was yn gwrando.’” Felly dyma Samuel yn mynd yn ôl orwedd i lawr.
10
A dyma'r ARGLWYDD yn dod ato eto, a galw arno fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!”. A dyma Samuel yn ateb, “Siarada, mae dy was yn gwrando.”
11
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Samuel, “Dw i yn mynd i wneud rhywbeth yn Israel fydd yn sioc ofnadwy i bawb fydd yn clywed am y peth.
12
Mae popeth dw i wedi sôn wrth Eli amdano — popeth ddywedais i fyddai'n digwydd i'w deulu — yn mynd i ddod yn wir!
13
Dw i wedi dweud wrtho fy mod yn mynd i gosbi ei deulu am byth. Roedd e'n gwybod fod ei feibion yn melltithio Duw, ac eto wnaeth e ddim dweud y drefn wrthyn nhw.
14
A dyna pam dw i wedi addo ar lw am deulu Eli, na fydd unrhyw aberth nac offrwm byth yn gallu gwneud iawn am eu pechod.”
15
Arhosodd Samuel yn ei wely tan y bore. Yna dyma fe'n codi i agor drysau cysegr yr ARGLWYDD. Roedd arno ofn dweud wrth Eli am y weledigaeth.
16
Ond dyma Eli'n ei alw, “Samuel, machgen i.” A dyma fe'n ateb, “Dyma fi.”
17
A dyma Eli'n gofyn iddo, “Beth ddwedodd Duw wrthot ti? Paid cuddio dim oddi wrtho i. Boed i Dduw dy gosbi di os byddi di'n cuddio unrhyw beth ddwedodd e oddi wrtho i!”
18
Felly dyma Samuel yn dweud popeth wrtho. Wnaeth e guddio dim. Ymateb Eli oedd, “Yr ARGLWYDD ydy e, a bydd e'n gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.”
19
Wrth i Samuel dyfu i fyny, roedd Duw gydag e. Daeth pob neges roddodd e gan Dduw yn wir.
20
Roedd Israel gyfan, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, yn gwybod fod Duw wedi dewis Samuel yn broffwyd.
21
Roedd yr ARGLWYDD yn dal i ymddangos i Samuel yn Seilo, ac yn rhoi negeseuon iddo yno.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31