bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
1 Samuel 21
1 Samuel 21
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 22 →
1
Dyma Dafydd yn mynd i Nob ble roedd Achimelech yn offeiriad. Roedd Achimelech yn nerfus iawn pan aeth allan at Dafydd, a gofynnodd iddo, “Pam wyt ti ar dy ben dy hun, a neb gyda ti?”
2
A dyma Dafydd yn ateb, “Y brenin sydd wedi gofyn i mi wneud rhywbeth. Mae wedi dweud fod neb i gael gwybod pam na ble dw i'n mynd. Dw i wedi trefnu i'r milwyr fy nghyfarfod i mewn lle arbennig.
3
Nawr, beth alli di ei roi i mi? Rho bum torth i mi, neu faint bynnag sydd gen ti.”
4
Ond dyma'r offeiriad yn ateb, “Does gen i ddim bara cyffredin o gwbl, dim ond bara sydd wedi ei gysegru i Dduw. Cei hwnnw gen i os ydy'r milwyr ddim wedi cysgu gyda merched neithiwr.”
5
“Wrth gwrs! Dŷn ni ddim wedi bod yn agos at ferched,” meddai Dafydd. “Dydy'r dynion ddim yn cael mynd at ferched pan maen nhw ar gyrch cyffredin, felly'n sicr ddim heddiw, pan maen nhw wedi cysegru eu hunain a'u harfau.”
6
Felly dyma'r offeiriad yn rhoi'r bara cysegredig iddo. Doedd ganddo ddim bara arall i'w gynnig. Dyma'r bara oedd wedi cael ei gymryd oddi ar y bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD, i fara ffres gael ei osod yn ei le pan oedd hi'n amser gwneud hynny.
7
Roedd un o weision Saul yn digwydd bod yno y diwrnod hwnnw. Doedd e ddim yn gallu gadael am ei fod wedi mynd ar lw i'r ARGLWYDD. Doeg oedd ei enw ac roedd yn dod o Edom, a fe oedd fforman bugeiliaid Saul.
8
Dyma Dafydd yn gofyn i Achimelech, “Oes gen ti gleddyf neu waywffon yma? Ro'n i ar gymaint o frys i ufuddhau i'r brenin, dw i wedi dod heb na chleddyf nac arfau.”
9
“Mae cleddyf Goliath yma — y Philistiad wnest ti ei ladd yn Nyffryn Ela,” meddai'r offeiriad. “Mae wedi ei lapio mewn clogyn tu ôl i'r effod. Cei gymryd hwnnw os wyt ti eisiau. Hwnnw ydy'r unig un sydd yma.” Atebodd Dafydd, “Does dim un tebyg iddo! Rho fe i mi.”
10
Felly dyma Dafydd yn mynd yn ei flaen y diwrnod hwnnw, a ffoi oddi wrth Saul at Achis brenin Gath.
11
Ond dyma swyddogion Achis yn dweud, “Onid Dafydd ydy hwn, brenin y wlad? Onid am hwn roedden nhw'n canu wrth ddawnsio: ‘Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd.’?”
12
Roedd beth ddwedon nhw yn codi ofn ar Dafydd. Beth fyddai Achis, brenin Gath, yn ei wneud iddo?
13
Felly dyma Dafydd yn dechrau ymddwyn yn od o'u blaenau nhw, a chymryd arno ei fod yn wallgof. Roedd rhaid iddyn nhw ei atal. Roedd e'n crafu drysau'r giât ac yn slefrian poer i lawr ei farf.
14
Dyma Achis yn dweud wrth ei swyddogion, “Edrychwch mae'r dyn yn wallgof! Pam ddaethoch chi ag e ata i?
15
Mae gen i ddigon o ffyliaid o'm cwmpas i heb i chi ddod â hwn i actio'r ffŵl o'm blaen i! Ewch â fe i ffwrdd o'r palas!”
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31