bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Joshua 12
Joshua 12
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
1
Dyma'r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, a'r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu — o Geunant Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen:
2
Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Ceunant Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Ceunant Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda tiriogaeth pobl Ammon — yn cynnwys hanner Gilead.
3
Roedd ei diriogaeth yn cynnwys y tir sydd i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd o Lyn Galilea i'r Môr Marw. Yna o Beth-ieshimoth yn y dwyrain i lawr i'r de cyn belled â llethrau Mynydd Pisga.
4
Og, brenin Bashan — un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl. Roedd Og yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei,
5
a'i diriogaeth yn ymestyn o Fynydd Hermon i Salca yn y gogledd, Bashan yn y dwyrain, ac i'r gorllewin at y ffin gyda teyrnasoedd Geshwr a Maacha, a hanner arall Gilead at y ffin gyda teyrnas Sihon, oedd yn frenin yn Cheshbon.
6
Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, a phobl Israel wedi eu trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse.
7
A dyma'r brenhinoedd wnaeth Josua a pobl Israel eu trechu i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen — o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac ac at wlad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel.
8
Roedd yn cynnwys y bryniau a'r iseldir, Dyffryn Iorddonen, y llethrau, anialwch Jwda a'r Negef, sef tiroedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid):
9
Brenin Jericho; brenin Ai, ger Bethel;
10
brenin Jerwsalem; brenin Hebron;
11
brenin Iarmwth; brenin Lachish;
12
brenin Eglon; brenin Geser;
13
brenin Debir; brenin Geder;
14
brenin Horma; brenin Arad;
15
brenin Libna; brenin Adwlam;
16
brenin Macceda; brenin Bethel;
17
brenin Tappŵach; brenin Cheffer;
18
brenin Affec; brenin Lasaron;
19
brenin Madon; brenin Chatsor;
20
brenin Shimron-meron; brenin Achsaff;
21
brenin Taanach; brenin Megido;
22
brenin Cedesh; brenin Jocneam, ger Mynydd Carmel;
23
brenin Dor, ar yr arfordir; brenin Goïm, ger Gilgal;
24
a brenin Tirsa. Tri deg un o frenhinoedd i gyd.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24