bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Joshua 5
Joshua 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
1
Roedd brenhinoedd yr Amoriaid a'r Canaaneaid wedi digalonni'n lân ac mewn panig llwyr. Roedden nhw wedi clywed fod yr ARGLWYDD wedi sychu'r Afon Iorddonen er mwyn i bobl Israel allu croesi drosodd. (Brenhinoedd yr Amoriaid oedd yn teyrnasu i'r gorllewin o'r Iorddonen, a brenhinoedd y Canaaneaid ar hyd arfordir Môr y Canoldir).
2
Bryd hynny dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Gwna gyllyll o garreg fflint, a dywed wrth ddynion Israel am fynd trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.”
3
A dyma Josua yn gwneud hynny ar Gibeath-ha-araloth (sef ‛Bryn y blaengrwyn‛).
4
Y rheswm pam roedd rhaid i Josua wneud hyn oedd fod y dynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaeth pobl Israel allan o wlad yr Aifft i gyd wedi marw yn yr anialwch.
5
Roedd y dynion hynny wedi eu henwaedu, ond doedd y rhai gafodd eu geni yn ystod y daith trwy'r anialwch ddim wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
6
Roedd pobl Israel wedi bod yn crwydro yn yr anialwch am bedwar deg mlynedd, nes bod yr holl ddynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaethon nhw allan o'r Aifft i gyd wedi marw — y dynion hynny oedd wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD. Roedd yr ARGLWYDD wedi tyngu llw na fyddai byth yn gadael iddyn nhw weld y wlad roedd wedi addo ei rhoi iddyn nhw — y wlad ffrwythlon lle roedd llaeth a mêl yn llifo.
7
A bellach, roedd eu meibion wedi cymryd eu lle. A nhw wnaeth Josua eu henwaedu, am fod eu tadau ddim wedi cadw'r ddefod yn ystod y cyfnod yn yr anialwch.
8
Ar ôl i'r dynion i gyd gael eu henwaedu, dyma nhw'n aros yn y gwersyll nes roedden nhw wedi gwella.
9
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Heddiw dw i wedi symud y cywilydd eich bod wedi bod yn gaethion yn yr Aifft.” (Dyna pam mai Gilgal ydy'r enw ar y lle hyd heddiw.)
10
Roedd pobl Israel yn gwersylla yn Gilgal ar wastatir Jericho. Pan oedd hi'n nosi ar ddechrau'r pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma nhw'n dathlu'r Pasg.
11
A'r diwrnod wedyn dyma nhw'n bwyta peth o gynnyrch y tir — bara heb furum ynddo, a grawn wedi ei rostio.
12
Dyna'r diwrnod pan wnaeth y manna stopio dod. O'r diwrnod pan ddechruon nhw fwyta cynnyrch y tir, gafodd pobl Israel ddim bwyta manna eto. O'r flwyddyn honno ymlaen roedden nhw'n bwyta cynnyrch gwlad Canaan.
13
Pan oedd Josua wrth ymyl Jericho, dyma fe'n gweld dyn yn sefyll o'i flaen yn dal cleddyf yn ei law. Dyma Josua'n mynd ato ac yn gofyn iddo, “Wyt ti ar ein hochr ni, neu gyda'n gelynion ni?”
14
A dyma fe'n ateb, “Pennaeth byddin yr ARGLWYDD ydw i. Dw i wedi cyrraedd.” A dyma Josua yn mynd ar ei wyneb ar lawr o'i flaen, a dweud, “Dy was di ydw i. Beth mae fy meistr eisiau i mi ei wneud?”
15
A dyma bennaeth byddin yr ARGLWYDD yn ei ateb, “Tynn dy sandalau; ti'n sefyll ar dir cysegredig!” Felly dyma Josua'n gwneud hynny.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24