bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Joshua 17
Joshua 17
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
1
Dyma'r tir gafodd ei roi i lwyth Manasse, mab hynaf Joseff. (Roedd ardaloedd Gilead a Bashan, i'r dwyrain o Afon Iorddonen, eisoes wedi eu rhoi i ddisgynyddion Machir — tad Gilead a mab hynaf Manasse — am ei fod yn filwr dewr.)
2
Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Manasse dir oedd i'r gorllewin o Afon Iorddonen. Disgynyddion Abieser, Chelec, Asriel, Sechem, Cheffer, a Shemida. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Manasse, mab Joseff.
3
Ond doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. (Cheffer oedd yn fab i Gilead, yn ŵyr i Machir ac yn or-ŵyr i Manasse.) Enwau merched Seloffchad oedd Machla, Noa, Hogla, Milca, a Tirtsa.
4
Dyma nhw'n mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, a'r arweinwyr eraill, a dweud, “Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses am roi tir i ni gyda'n perthnasau.” Felly dyma Josua yn rhoi tir iddyn nhw gyda brodyr eu tad, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
5
Cafodd Manasse ddeg darn o dir yn ychwanegol at Gilead a Bashan oedd i'r dwyrain o Afon Iorddonen,
6
am fod merched o lwyth Manasse wedi cael tir gyda'r meibion. (Roedd tir Gilead yn perthyn i weddill disgynyddion Manasse.)
7
Roedd tir Manasse yn ymestyn o'r ffin gyda llwyth Asher yn y gogledd, i Michmethath wrth ymyl Sichem. Yna roedd yn mynd yn bellach i'r de at y bobl oedd yn byw yn En-tappŵach.
8
(Roedd yr ardal o gwmpas Tappŵach yn perthyn i lwyth Manasse, ond tref Tappŵach ei hun, oedd ar ffin Manasse yn perthyn i lwyth Effraim.)
9
Wedyn roedd ffin y de yn dilyn Dyffryn Cana. Roedd trefi yno, yng nghanol trefi Manasse, oedd wedi cael eu rhoi i lwyth Effraim. Ond roedd ffin Manasse yn mynd ar hyd ochr ogleddol y dyffryn, at y môr.
10
Tir Effraim oedd i'r de o'r ffin, a Manasse i'r gogledd. Môr y Canoldir oedd ffin Manasse i'r gorllewin. Yna roedd eu tir yn ffinio gyda llwyth Asher i'r gogledd ac Issachar i'r dwyrain.
11
Ac roedd rhai trefi o fewn ffiniau Asher ac Issachar, gyda'r pentrefi o'u cwmpas, wedi eu rhoi i lwyth Manasse: Beth-shean, Ibleam, Dor, En-dor, Taanach, a Megido, (Naffeth ydy'r drydedd yn y rhestr).
12
Ond wnaeth dynion Manasse ddim llwyddo i goncro'r trefi yma. Roedd y Canaaneaid yn dal i wrthod symud.
13
Yn ddiweddarach, pan oedd Israel yn gryfach, dyma nhw yn llwyddo i orfodi'r Canaaneaid i weithio fel caethweision iddyn nhw. Ond wnaethon nhw erioed lwyddo i'w gyrru nhw allan yn llwyr.
14
Dyma ddisgynyddion Joseff yn gofyn i Josua, “Pam wyt ti wedi rhoi cyn lleied o dir i ni? — dim ond un rhandir. Mae yna lot fawr ohonon ni, a diolch i'r ARGLWYDD dŷn ni'n dal i dyfu.”
15
Dyma Josua'n dweud, “Os oes cymaint a hynny ohonoch chi, a bryniau Effraim yn rhy fach, ewch i'r goedwig a chlirio lle i fyw yno, yn ardal y Peresiaid a'r Reffaiaid.”
16
Ond dyma nhw'n ateb, “Fyddai'r bryniau yna i gyd ddim digon, ac allwn ni ddim mynd i lawr i'r dyffryn — mae gan y Canaaneaid sy'n byw yn ardal Beth-shean a Dyffryn Jesreel, gerbydau rhyfel haearn.”
17
Yna dyma Josua'n dweud wrth ddisgynyddion Joseff (sef llwythau Effraim a Manasse): “Oes, mae yna lot fawr ohonoch chi, a dych chi'n gryf iawn. Byddwch chi yn cael mwy nag un rhandir.
18
Chi fydd piau'r bryniau i gyd. Er fod y tir yn goediog, gallwch ei glirio, a'i gymryd i gyd. A gallwch goncro'r Canaaneaid yn yr iseldir hefyd, er eu bod nhw'n gryfion a bod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.”
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24