bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Joshua 15
Joshua 15
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
1
Roedd y tir gafodd ei roi i lwyth Jwda yn dilyn y ffin gydag Edom i Anialwch Sin yn y Negef i lawr yn y de.
2
Roedd y ffin yn y de yn dechrau o ben isaf y Môr Marw,
3
heibio i'r de o Fwlch y Sgorpion, ar draws i Sin ac yna i'r ochr isaf i Cadesh-barnea. Yna roedd yn croesi i Hesron, ac yn mynd i fyny i Adar, cyn troi i gyfeiriad Carca.
4
Wedyn roedd yn croesi i Atsmon ac yn dilyn Wadi'r Aifft yr holl ffordd i Fôr y Canoldir. Dyna oedd y ffin yn y de.
5
Y Môr Marw at aber Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain. Wedyn roedd y ffin ogleddol yn ymestyn o aber yr Iorddonen ar ben uchaf y Môr Marw,
6
i fyny i Beth-hogla, yna ar draws o du uchaf Beth-araba at Garreg Bohan (mab Reuben).
7
Ymlaen wedyn i Debir o Ddyffryn Achor, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Gilgal (sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, i'r de o'r ceunant.) Yna heibio Dyfroedd En-shemesh cyn belled ag En-rogel.
8
Wedyn roedd y ffin yn dilyn Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o dre'r Jebwsiaid (sef Jerwsalem). Yna i'r gorllewin, ac i gopa'r mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom ac i'r gogledd o Ddyffryn Reffaïm.
9
O dop y mynydd roedd yn mynd at ffynnon dyfroedd Nefftoach, at drefi Mynydd Effron, ac yna'n troi i gyfeiriad Baäla (sef Ciriath-iearim).
10
Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin o Baäla i gyfeiriad Mynydd Seir, ac yn croesi i dref Cesalon ar lethr gogleddol Mynydd Iearim, cyn mynd i lawr i Beth-shemesh a chroesi i Timna.
11
Yna i gyfeiriad y gogledd at lethrau Ecron, ymlaen i Shicron, croesi i Fynydd Baäla, ac i Iabneël a Môr y Canoldir.
12
Môr y Canoldir ei hun oedd y ffin orllewinol. Dyna oedd ffiniau teuluoedd llwyth Jwda.
13
Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.)
14
Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai.
15
Yna dyma fe'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.)
16
Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”
17
Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro'r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo.
18
Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma ei thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?”
19
A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.
20
Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Jwda:
21
Y trefi i lawr yn y de ar y ffin gydag Edom: Cabseël, Eder, Iagwr,
22
Cina, Dimona, Adada,
23
Cedesh, Chatsor, Ithnan,
24
Siff, Telem, Bealoth,
25
Chatsor-chadatta, Cerioth-chetsron (sef Chatsor),
26
Amam, Shema, Molada,
27
Chatsar-gada, Cheshmon, Beth-pelet,
28
Chatsar-shwal, Beersheba, Bisiothia,
29
Baäla, Ïim, Etsem,
30
Eltolad, Cesil, Horma,
31
Siclag, Madmanna, Sansanna,
32
Lebaoth, Shilchim, Ain a Rimmon. Dau ddeg naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
33
Yna'r trefi ar yr iseldir: Eshtaol, Sora, Ashna,
34
Sanoach, En-gannïm, Tappŵach, Enam,
35
Iarmwth, Adwlam, Socho, Aseca,
36
Shaaraim, Adithaïm, a Gedera (neu Gederothaim) — un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
37
Hefyd trefi Senan, Chadasha, Migdal-gad,
38
Dilean, Mitspe, Iocteël,
39
Lachish, Botscath, Eglon,
40
Cabbon, Lachmas, Citlish,
41
Gederoth, Beth-dagon, Naäma, a Macceda — un deg chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
42
Trefi Libna, Ether, Ashan,
43
Ifftach, Ashna, Netsib,
44
Ceila, Achsib, a Maresha — naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
45
Yna Ecron a'r trefi a'r pentrefi o'i chwmpas hi,
46
ac i gyfeiriad y gorllewin, y trefi oedd yn ymyl Ashdod, a'r pentrefi o'u cwmpas.
47
Ashdod ei hun, a Gasa a'r trefi a'r pentrefi o'u cwmpas — yr holl ffordd at Wadi'r Aifft ac arfordir Môr y Canoldir.
48
Wedyn y trefi yn y bryniau: Shamîr, Iattir, Socho,
49
Danna, Ciriath-sanna (sef Debir),
50
Anab, Eshtemoa, Anim,
51
Gosen, Holon, a Gilo — un deg un o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
52
Hefyd Arab, Dwma, Eshan,
53
Janwm, Beth-tappwach, Affeca,
54
Chwmta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sior — naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
55
Yna Maon, Carmel, Siff, Iwtta,
56
Jesreel, Iocdeam, Sanoach,
57
Cain, Gibea, a Timna — deg o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
58
Chalchwl, Beth-tswr, Gedor,
59
Maarath, Beth-anoth, ac Eltecon — chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
60
Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) a Rabba — dwy dref, a'r pentrefi o'u cwmpas.
61
Yna'r trefi yn yr anialwch — Beth-araba, Midin, Sechacha,
62
Nibshan, Tre'r Halen, ac En-gedi — chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
63
Ond wnaeth dynion Jwda ddim llwyddo i goncro'r Jebwsiaid oedd yn byw yn Jerwsalem. Felly mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw gyda phobl Jwda hyd heddiw.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
Recommended Reading
Commentary
Joshua Commentaries
→
Devotional
Joshua Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→