bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Leviticus 21
Leviticus 21
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 22 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dywed hyn wrth yr offeiriaid, disgynyddion Aaron: “Dydy offeiriad ddim i wneud ei hun yn aflan drwy fynd yn agos at gorff perthynas sydd wedi marw.
2
Dydy e ddim ond yn cael mynd at ei berthnasau agosaf — mam, tad, merch, brawd,
3
neu chwaer ddibriod oedd heb ŵr i ofalu amdani.
4
Dydy e ddim i fynd at rywun sy'n perthyn iddo trwy briodas. Byddai'n gwneud ei hun yn aflan wrth wneud hynny.
5
Dydy offeiriad ddim i siafio rhan o'i ben yn foel, na trimio ei farf, na torri ei hun wrth alaru.
6
Maen nhw i gysegru eu hunain i Dduw, a peidio sarhau enw eu Duw. Nhw sy'n cyflwyno offrymau i'w llosgi i'r ARGLWYDD, sef bwyd i'w Duw. Maen nhw i fod wedi eu cysegru.
7
Dydy offeiriad ddim i briodi putain, na gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd, na gwraig sydd wedi cael ysgariad. Maen nhw wedi cysegru eu hunain i Dduw.
8
Rhaid i chi ystyried yr offeiriad yn sanctaidd, am fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
9
Pan mae merch offeiriad yn amharchu ei hun drwy droi'n butain grefyddol, mae hi'n amharchu ei thad hefyd. Rhaid iddi gael ei llosgi i farwolaeth.
10
“Dydy'r archoffeiriad, sef yr un sydd wedi cael ei eneinio ag olew a'i ordeinio i wisgo'r gwisgoedd offeiriadol, ddim i adael ei wallt yn flêr nag i rwygo ei ddillad.
11
Dydy e ddim i fynd yn agos at gorff marw. Dydy e ddim i wneud ei hun yn aflan hyd yn oed pan mae ei dad neu ei fam wedi marw.
12
Dydy e ddim i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo sarhau cysegr Duw. Mae wedi ei gysegru gydag olew eneinio ei Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD.
13
Rhaid iddo briodi merch sy'n wyryf.
14
Dydy e ddim i briodi gwraig weddw, gwraig sydd wedi cael ysgariad, gwraig sydd wedi gweithio mewn teml baganaidd neu butain. Rhaid iddo briodi merch o'i lwyth ei hun sy'n wyryf,
15
rhag iddo gael plant sydd ddim yn dderbyniol i Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi ei gysegru e i mi fy hun.”
16
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
17
“Dywed wrth Aaron: Does neb o dy ddisgynyddion di sydd â nam arno i gael dod yn agos i offrymu bwyd ei Dduw.
18
Neb sy'n ddall, yn anabl, gyda wyneb wedi ei anffurfio, neu ryw nam corfforol arall,
19
wedi torri ei goes neu ei fraich,
20
yn grwca neu'n gorrach, neu'n ddyn sydd a rhywbeth o'i le ar ei lygaid, rhyw afiechyd ar y croen, neu wedi niweidio ei geilliau.
21
Does neb o ddisgynyddion Aaron sydd â nam arnyn nhw i gael dod ag offrymu rhoddion i'r ARGLWYDD. Os oes nam arno dydy e ddim yn cael cyflwyno bwyd ei Dduw.
22
Maen iawn iddo fwyta bwyd ei Dduw, yr hyn sydd wedi ei gysegru a'r offrymau mwyaf sanctaidd.
23
Ond dydy e ddim i gael mynd yn agos at y llen na'r allor, am fod nam arno, rhag iddo lygru fy lle cysegredig i a phopeth sydd yno. Fi ydy'r ARGLWYDD sydd yn eu cysegru nhw i mi fy hun.”
24
Dyma'r pethau ddwedodd Moses wrth Aaron a'i ddisgynyddion ac wrth bobl Israel.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27