bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Leviticus 23
Leviticus 23
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 24 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2
“Dywed wrth bobl Israel: “Dw i wedi dewis amserau penodol i chi eu cadw fel gwyliau pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli:
3
“Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth. Diwrnod i chi orffwys a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio ble bynnag fyddwch chi'n byw. Mae'r diwrnod yma yn Saboth i'r ARGLWYDD.
4
“Dyma'r gwyliau penodol eraill pan mae'r ARGLWYDD am i chi ddod at eich gilydd i addoli:
5
“Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu pan mae'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
6
“Mae Gŵyl y Bara Croyw yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis hwnnw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo.
7
Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.
8
Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD bob dydd, ac ar y seithfed diwrnod dod at eich gilydd i addoli eto, a peidio gwneud eich gwaith arferol.”
9
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses,
10
“Dywed wrth bobl Israel: “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi, ac yn casglu'r cynhaeaf, mae'r ysgub gyntaf o bob cnwd i gael ei roi i'r offeiriad.
11
Ar y diwrnod ar ôl y Saboth mae'r offeiriad i gymryd yr ysgub a'i chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a bydd Duw yn ei derbyn hi.
12
Ar y diwrnod hwnnw hefyd rhaid i chi gyflwyno oen blwydd oed heb nam arno yn aberth i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.
13
Gydag e rhaid llosgi dau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd. Mae'n rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, gydag offrwm o ddiod hefyd, sef litr o win.
14
Peidiwch bwyta dim o'r grawn, fel y mae neu wedi ei grasu, na bara wedi ei wneud ohono chwaith, nes byddwch chi wedi cyflwyno'r offrwm yma. Fydd y rheol yma byth yn newid ble bynnag fyddwch chi'n byw.
15
“Saith wythnos union ar ôl y diwrnod pan oedd yr ysgub yn cael ei chodi yn offrwm i'r ARGLWYDD, rwyt i ddod ac offrwm arall o rawn newydd.
16
Mae hyn i ddigwydd bum deg diwrnod wedyn, sef y diwrnod ar ôl y seithfed Saboth.
17
Tyrd â dwy dorth o fara i'w codi a'u chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Maen nhw i gael eu gwneud o ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau, a'u pobi gyda burum, fel offrwm wedi ei wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf.
18
“Hefyd rhaid cyflwyno saith oen sy'n flwydd oed, tarw ifanc, a dau hwrdd. Anifeiliaid heb unrhyw nam arnyn nhw, i'w llosgi'n llwyr yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD, gyda'r offrwm o rawn a'r offrwm o ddiod sydd i fynd gyda pob un.
19
Rwyt i gyflwyno bwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, a dau oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod mor dda ydw i.
20
Rhaid i'r offeiriad eu codi nhw — sef y ddau oen — a'u chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD gyda'r bara sydd wedi ei wneud o rawn cnwd cynta'r cynhaeaf. Byddan nhw wedi eu cysegru ac yn cael eu rhoi i'r offeiriaid.
21
Dych chi i ddathlu ar y diwrnod yma, a dod at eich gilydd i addoli. Peidio gwneud gwaith fel arfer. Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw.
22
“Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A paid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi ei adael ar ôl. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, a'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
23
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
24
“Dywed wrth bobl Israel: Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis dych chi i orffwys yn llwyr. Diwrnod y cofio, yn cael ei gyhoeddi drwy ganu utgyrn, pan fyddwch chi'n dod at eich gilydd i addoli.
25
Peidiwch gweithio fel arfer, ond dod a chyflwyno rhoddion i'w llosgi i'r ARGLWYDD.”
26
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
27
“Y degfed diwrnod o'r seithfed mis ydy'r diwrnod i wneud pethau'n hollol iawn rhyngoch chi â Duw. Rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi'n sori am eich pechod, a dod â rhoddion i'w llosgi i'r ARGLWYDD.
28
Peidiwch gweithio ar y diwrnod yna, am mai'r diwrnod i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â'r ARGLWYDD eich Duw ydy e.
29
Yn wir, os bydd rhywun yn gwrthod mynd heb fwyd, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
30
Ac os bydd unrhyw un yn gweithio ar y diwrnod hwnnw, bydda i'n dinistrio'r person hwnnw — bydd e'n marw.
31
Rhaid i chi beidio gweithio! Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw.
32
Mae'r diwrnod yma yn ddiwrnod o orffwys llwyr i chi, fel y Saboth. Rhaid i chi beidio bwyta o'r amser pan fydd hi'n nosi y noson cynt nes iddi nosi y diwrnod hwnnw. Rhaid i chi ei gadw fel Saboth.”
33
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
34
“Dywed wrth bobl Israel: Ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis rhaid i bawb ddathlu Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod.
35
Does neb i weithio ar ddiwrnod cynta'r Ŵyl. Byddwch yn dod at eich gilydd i addoli.
36
Rhaid i chi gyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD bob dydd am saith diwrnod. Ar yr wythfed diwrnod byddwch yn dod at eich gilydd i addoli, a chyflwyno rhoddion i'r ARGLWYDD. Dyma'r diwrnod olaf i chi ddod at eich gilydd. Rhaid i chi beidio gweithio o gwbl.
37
“Dyma'r gwyliau penodol dw i wedi eu dewis i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi gyflwyno rhoddion i'r ARGLWYDD — offrymau i'w llosgi'n llwyr, offrymau o rawn, aberthau, a'r offrymau o ddiod sydd wedi eu penodi ar gyfer bob dydd.
38
Hyn i gyd heb sôn am Sabothau'r ARGLWYDD, eich rhoddion, eich offrymau wrth wneud addewid, a'r offrymau dych chi'n eu rhoi o'ch gwirfodd i'r ARGLWYDD.
39
“Ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis, pan fyddwch wedi casglu'ch cnydau i gyd, rhaid i chi ddathlu a chynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod. Mae'r diwrnod cyntaf i fod yn ddiwrnod o orffwys llwyr, a'r wythfed diwrnod hefyd.
40
Ar y diwrnod cyntaf dych chi i gymryd canghennau o'r coed ffrwythau gorau — canghennau coed palmwydd, a choed deiliog eraill a'r helyg sy'n tyfu ar lan yr afon — a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod.
41
Rhaid i chi ddathlu'r Ŵyl yma i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Mae'n rheol sydd i'w gadw bob amser yn y seithfed mis.
42
Rhaid i chi aros mewn lloches dros dro am saith diwrnod. Mae pobl Israel i gyd i aros ynddyn nhw,
43
er mwyn i'ch plant chi wybod fy mod i wedi gwneud i bobl Israel aros mewn llochesau felly pan ddes i â nhw allan o wlad yr Aifft. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
44
Felly dwedodd Moses wrth bobl Israel am y gwyliau penodol oedd yr ARGLWYDD eisiau iddyn nhw eu cadw.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27