bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Leviticus 3
Leviticus 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 4 →
1
“Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, os mai anifail o'r gyr o wartheg ydy e, gall fod yn wryw neu'n fenyw, ond rhaid iddo fod heb ddim byd o'i le arno.
2
Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail ac yna ei ladd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. Wedyn bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
3
Yna bydd y person sy'n cyflwyno'r offrwm yn rhoi'r darnau yma yn rhodd i'r ARGLWYDD: y braster sydd o gwmpas perfeddion yr anifail ac ar yr organau gwahanol,
4
y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
5
Bydd yr offeiriaid yn llosgi'r rhain ar yr allor gyda'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr — yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
6
“Os mai anifail o'r praidd o ddefaid a geifr sy'n cael ei offrymu i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, gall fod yn wryw neu'n fenyw, ond heb ddim byd o'i le arno.
7
Os mai oen ydy'r offrwm, rhaid ei gyflwyno i'r ARGLWYDD o flaen y fynedfa i'r Tabernacl.
8
Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail, ac yna ei ladd o flaen y fynedfa. Wedyn bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
9
Yna bydd y person sy'n ei gyflwyno yn rhoi'r brasder yn offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD: y brasder ar y gynffon lydan (sydd i gael ei thorri wrth yr asgwrn cefn), y brasder o gwmpas perfeddion yr anifail, a'r brasder ar yr organau gwahanol,
10
y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
11
Wedyn bydd offeiriad yn llosgi'r rhain ar yr allor. Dyma'r rhan o'r offrwm bwyd sy'n cael ei losgi i'r ARGLWYDD.
12
“Os mai gafr sy'n cael ei offrymu, rhaid ei gyflwyno i'r ARGLWYDD
13
o flaen y fynedfa i'r Tabernacl. Rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail, ac yna ei ladd yno. Wedyn bydd offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
14
Yna rhaid iddo gyflwyno'r canlynol yn rhodd i'r ARGLWYDD: Y brasder o gwmpas perfeddion yr anifail a'r brasder ar yr organau gwahanol,
15
y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
16
Wedyn bydd offeiriad yn llosgi'r rhain ar yr allor, yn offrwm bwyd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. “Yr ARGLWYDD piau'r brasder i gyd.
17
Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi'n byw: Peidiwch byth a bwyta unrhyw frasder na gwaed.”
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27