bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Leviticus 24
Leviticus 24
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 25 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2
“Dywed wrth bobl Israel fod rhaid iddyn nhw ddod ag olew olewydd pur i mi fel bod y lampau wedi eu goleuo'n gyson.
3
Mae Aaron i'w gosod tu allan i'r llen sydd o flaen Arch y dystiolaeth yn y Tabernacl. Rhaid iddo ofalu eu bod yn llosgi drwy'r nos o flaen yr ARGLWYDD. Mae hyn i fod yn rheol bob amser.
4
Rhaid iddo ofalu bob amser am y lampau ar y menora cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD.
5
“Rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau a pobi deuddeg torth gydag e. Dau gilogram o flawd ar gyfer pob torth.
6
Mae'r deuddeg torth i'w gosod ar y bwrdd cysegredig sydd o flaen yr ARGLWYDD. Rhaid eu gosod yn ddau bentwr o chwech yr un.
7
Yna rhaid rhoi thus pur ar y ddau bentwr, a bydd y bara yn ernes, yn rhodd i'r ARGLWYDD.
8
Mae Aaron i wneud hyn yn ddi-ffael bob Saboth, a'u gosod mewn trefn o flaen yr ARGLWYDD. Mae'n ymrwymiad mae'n rhaid i bobl Israel ei gadw bob amser.
9
Mae'r offeiriaid, Aaron a'i feibion, i gael y bara. Rhaid iddyn nhw fwyta'r torthau mewn lle cysegredig am eu bod yn rhoddion sydd wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD.”
10
[10-11] Un diwrnod roedd dyn oedd yn fab i un o wragedd Israel, ond ei dad yn Eifftiwr, wedi mynd allan o'i babell i wersyll yr Israeliaid. A dyma fe'n dechrau ymladd gyda un o ddynion Israel. Dyma fe'n amharchu enw Duw, a melltithio. Felly dyma nhw'n mynd ag e at Moses. Enw ei fam oedd Shlomit (merch Dibri, o lwyth Dan).
12
Dyma nhw'n ei gadw yn y ddalfa nes byddai'r ARGLWYDD yn gwneud yn glir iddyn nhw beth oedd i ddigwydd iddo.
13
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
14
“Mae'r dyn yma wedi fy melltithio i. Dos â fe allan o'r gwersyll, a gwna i'r rhai glywodd e'n melltithio osod eu dwylo ar ei ben. Wedyn rhaid i bawb sydd wedi dod at ei gilydd yno ei ladd drwy daflu cerrig ato.
15
Wedyn rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae unrhyw un sy'n melltithio enw ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod,
16
ac mae unrhyw un sy'n amharchu enw'r ARGLWYDD i farw. Rhaid i bawb daflu cerrig ato a'i ladd. Sdim ots os ydy'r person yn un o bobl Israel neu'n fewnfudwr sy'n byw yn ein plith. Mae unrhyw un sy'n amharchu enw Duw i farw.
17
“‘Marwolaeth ydy'r gosb am lofruddiaeth hefyd.
18
Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo dalu drwy roi anifail tebyg yn ei le i'r perchennog.
19
Os ydy rhywun wedi anafu person arall, rhaid i'r gosb gyfateb i'r drosedd —
20
anaf am anaf, llygad am lygad, dant am ddant — beth bynnag mae e wedi ei wneud i'r person arall, dyna sydd i gael ei wneud iddo fe.
21
Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn am y peth. Ond os ydy rhywun yn llofruddio rhywun arall, rhaid iddo farw.
22
Yr un ydy'r gyfraith i bobl Israel a mewnfudwyr sy'n byw yn eu plith. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’”
23
Ar ôl i Moses ddweud hyn, dyma nhw'n mynd â'r un oedd wedi melltithio Duw allan o'r gwersyll, a'i ladd drwy daflu cerrig ato. Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27